Pa fath o do fydd ei angen ar fy estyniad tŷ newydd?
Project type
Fel unrhyw do, bydd angen dylunio to eich estyniad i gadw'r glaw a'r eira allan ac atal lledaeniad tân, ac efallai y bydd angen iddo ymdopi â llwyth ysgafn storfa yn yr atig.
Yn gyffredinol, defnyddir dau fath o do mewn estyniadau domestig:
To fflat
Dyma'r math symlaf a'r rhataf yn gyffredinol o adeiledd to ar gyfer rhai estyniadau (un llawr fel rheol) ac mae'n rhoi edrychiad mwy modern na tho traddodiadol ar ongl.
Defnyddir distiau pren i rychwantu rhwng y waliau cynnal pwysau neu drawstiau cynnal, ac yna cânt eu gorchuddio â dec pren haenog wedi'i osod ar stribedi cennu (darnau o bren wedi'u tapro) i ddarparu ychydig bach o ongl (fel bod dŵr glaw'n gallu llifo i ffwrdd).
Yna, caiff defnydd inswleiddio ei roi dros y dec; y dyddiau hyn, mae'n gyffredin gorffennu hwn â gorchudd gwrth-ddŵr o EDPM (rwber synthetig sy'n rhoi oes hirach na ffelt, y gorchudd a oedd yn arfer bod fwyaf cyffredin) neu fitwmen wedi'i osod ar ben concrit.
Mae EDPM yn gwneud sail dda os ydych yn cynllunio gosod to byw, ac mae'n un o'r systemau toi mwyaf ecogyfeillgar. Gallwch hefyd osod defnydd inswleiddio o dan y dec; bydd angen gwagle 50mm wedi'i awyru uwchben hwn. .
Y pethau pwysig i'w hystyried gyda tho fflat yw maint a chynhaliad trawstiau'r to a sut i inswleiddio'r to a'i awyru os oes angen.
Manteision to fflat
- Ei osod yn gyflym
- Economaidd
- Rhoi edrychiad modern i'ch estyniad
- Caniatáu i chi osod to byw neu do gwyrdd
- Drwy gadw uchder y to yn is, gallai fod yn haws cadw eich estyniad o fewn rheolau datblygiad a ganiateir
Anfanteision to fflat
- Mae'n bosibl iawn y bydd angen mwy o waith cynnal a chadw arno
- Bydd oes yr haen ddiddosi yn gyfyngedig (25 mlynedd fel rheol) ac yna bydd angen gosod un newydd.
To ar ongl
Efallai na fydd to fflat yn addas ac mai to ar ongl yw'r ateb i chi, neu efallai yr hoffech rywbeth â theimlad mwy traddodiadol a nenfydau uwch.
Mae toeon ar ongl yn adeileddau mwy sylweddol sy'n cael eu gorffennu â theils to neu lechi.
Mae gwahanol ffyrdd o ffurfio adeiledd cynnal y to:
- Defnyddio to ceibrau cypledig wedi'i wneud ymlaen llaw (wedi'i ddylunio a'i wneud gan wneuthurwr y to, yna ei gludo i'r safle i'w osod).
- Neu yn y ffordd draddodiadol lle bydd saer coed yn torri'r to ar y safle ar ôl i bensaer neu beiriannydd adeileddol ei ddylunio. Ar gyfer toeon cymhleth, bydd y to traddodiadol yn aml yn fwy addas.
Bydd maint distiau a thrawstiau cynnal yn dibynnu ar y pellter rhwng cynalyddion a'r llwyth y bydd rhaid i'r to ei ddal.
Gosodir haen o bilen to ac yna teils neu lechi i gadw'r tywydd allan; bydd y teils yn gorgyffwrdd ac ar ddigon o ongl i ddŵr glaw lifo oddi arnynt.
Manteision to ar ongl
- Para'n hirach na tho fflat
- Gallwch drawsnewid yr atig hefyd os yw'n ddigon mawr.
- Mae mwy o olau dydd yn dod drwy ffenestri mewn to ar ongl nag mewn to fflat oherwydd eu hongl
- Gallai fod yn haws darparu gwagle wedi'i awyru uwchben y defnydd inswleiddio i leihau'r risg o anwedd
Anfanteision to ar ongl
- Drutach i'w adeiladu
- Cymryd mwy o amser i'w adeiladu
- Gallai rwystro golygfa eich cymydog
- Efallai na fydd yn gweddu i steil eich cartref
Rhagor o wybodaeth
Pa adeiledd llawr ddylwn i ei ddewis ar gyfer fy estyniad?
Pa faterion ddylwn i eu hystyried ar gyfer waliau fy estyniad tŷ newydd?