Skip to main content
Pa faterion ddylwn i eu hystyried ar gyfer waliau fy estyniad tŷ newydd?

Pa faterion ddylwn i eu hystyried ar gyfer waliau fy estyniad tŷ newydd?

Project type

Mae angen i waliau eich estyniad newydd gynnal pwysau eich lloriau a'ch to, cadw'r tywydd allan a darparu ynysiad thermol.

Waliau allanol

Fel rheol, defnyddir waliau ceudod mewn estyniadau domestig. Mae'r rhain yn cynnwys dwy ddalen (wal) wedi'u gwneud o frics neu flociau, a bwlch yn y canol (y ceudod). Caiff defnydd inswleiddio addas ei osod yn y ceudod.

Bydd angen bwtres digonol yng nghorneli eich estyniad, linteri dros bob agoriad a rhwymau wal (stribedi neu farrau metel sy'n dal y waliau mewnol ac allanol at ei gilydd) i uno'r dalenni a chadw'r adeiledd yn sefydlog, a chwrs gwrthleithder.

Os ydych chi'n adeiladu yn erbyn tŷ eich cymydog, bydd angen i'ch waliau wrthsefyll sain yn ddigonol hefyd. (Gallai'r defnydd inswleiddio yng ngheudod eich wal fod yn ddigonol.)

Mae dulliau adeiladu eraill, gan gynnwys gwaith blocs ac aercrit, yn ddewisiadau posibl hefyd ac yn gallu cydymffurfio â rheoliadau adeiladu.

Waliau mewnol

Os yw wal fewnol yn cynnal pwysau (cynnal to, llawr neu drawst) bydd angen iddi fod yn gryfach na wal sydd ddim yn cynnal pwysau, o bosibl â thrawst a fydd hefyd wedi'i gynnal. Bydd angen sylfaen neu drawst cynnal digonol o dan y wal.

Bydd eich peiriannydd adeileddol, eich dylunydd, eich pensaer neu eich adeiladwr yn gallu helpu ynglŷn â dyluniad eich waliau.

Rhagor o wybodaeth

Sut i ddod o hyd i bensaer neu ddylunydd

Sut i ddod o hyd i grefftwr