Fel rhan o'r broses o wneud cais rheoliadau adeiladu ar gyfer eich estyniad, bydd angen i chi gynnwys manylion llawn am y to arfaethedig – math, dimensiynau a phriodweddau perfformiad a'r defnyddiau byddwch chi'n eu defnyddio.
Mae'r rheoliadau'n ymwneud â'r canlynol:
Awyru: yn ogystal â chadw'r tywydd allan, gall fod angen awyru gan ddibynnu ar sut mae eich defnydd inswleiddio wedi'i osod er mwyn lleihau'r risg o anwedd. Os yw'r defnydd inswleiddio yn union o dan yr haen ddiddosi (adeiladwaith to cynnes) fydd dim angen awyru. Os yw'r defnydd inswleiddio'n union uwchben y nenfwd, bydd angen gwagle wedi'i awyru uwch ei ben.
Llwytho: mae'r llwyth y bydd eich to'n gallu ei gynnal yn bwysig. Mae angen i'r to gynnal y defnyddiau sy'n gwneud y to a'r llwyth ychwanegol mae'r tywydd yn ei roi arno (eira a gwynt, er enghraifft), yn ogystal ag unigolyn rhag ofn y bydd angen i rywun fynd i fyny i'w drwsio.
Inswleiddio: Mae'n rhaid iddo fod yn ddigon trwchus ac o ansawdd digon da i atal colled gwres drwy'r to.
Rhagor o wybodaeth
Popeth mae angen i chi ei wybod am wneud cais rheoliadau adeiladu.