Skip to main content
Pa archwiliadau safle rheoli adeiladu dylwn i eu disgwyl ar gyfer fy estyniad newydd?

Pa archwiliadau safle rheoli adeiladu dylwn i eu disgwyl ar gyfer fy estyniad newydd?

Project type

Ynghyd â chadarnhau cymeradwyaeth i'ch eich estyniad newydd, efallai y bydd eich syrfëwr rheoli adeiladu'n nodi rhai camau gwaith penodol y bydd angen hysbysiad i'w harchwilio.

Y ddau hysbysiad sy'n ofynnol gan y gyfraith yw archwiliadau'r safle wrth ddechrau a chwblhau'r gwaith.

Archwiliad dechrau – cewch ymweliad pan fydd y gwaith yn dechrau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i'ch tîm rheoli adeiladu pryd bydd hynny'n digwydd.

Archwiliad cwblhau – os yw eich syrfëwr wedi gweld pob cam perthnasol yn y gwaith.

Pa waith arall fydd y tîm rheoli adeiladu'n ei archwilio?

Efallai y bydd y tîm rheoli adeiladu am ddod allan i'ch gweld hefyd i archwilio unrhyw un o'r canlynol:

Gwaith cloddio sylfeini

Mae'r rhain yn hanfodol i lwyddiant eich prosiect. Bydd eich syrfëwr yn edrych ar amodau'r tir a'r safle i wneud yn siŵr bod y sylfeini'n addas i'ch prosiect. Bydd yn edrych i weld:

Paratoi gorchudd y safle

Lloriau solet

Slabiau llawr solet sy'n selio'r ddaear ac yn creu llawr gwaelod eich adeilad yw gorchudd y safle. Mae wedi'i wneud o nifer o haenau o wahanol ddefnyddiau ac yn gallu cynnwys defnydd inswleiddio a philenni nwy a lleithder, gan ddibynnu ar eich lleoliad a phwrpas eich adeilad.

Mae'r haenau hyn yn cynnwys (gan ddechrau o'r gwaelod):

Craidd caled

Beth mae'r tîm rheoli adeiladu'n edrych amdano?

  • A yw cymysgedd y craidd caled yn addas i'r gwaith? Mae rhai defnyddiau'n adweithio wrth gael eu cymysgu â'i gilydd (er enghraifft, mae calchfaen a gypswm yn gallu ymosod ar goncrit) ac mae rhai sylweddau'n adweithio'n ddrwg gyda dŵr.
  • Dylai'r darnau graean fod y siâp a'r maint cywir er mwyn gallu eu cywasgu neu eu crynhoi gyda'i gilydd gan ddefnyddio plât curo i ffurfio haen fydd yn cynnal y pwysau sy'n cael ei roi arno ac yn gadael i'r safle ddraenio'n iawn.

Haen o dywod

Caiff haen o dywod adeiladwyr ei arllwys ar ben yr haen craidd caled i lyfnhau unrhyw lympiau neu bantiau bach. Dylai trwch yr haen hon fod tua 50mm. Nid oes angen hyn os oes seliwr llawr Math 1 wedi cael ei osod. Diben y tywod yw amddiffyn pilen gwrthleithder blastig rhag cael ei rhwygo gan y cerrig yn y lefel craidd caled.

Beth mae'r tîm rheoli adeiladu'n edrych amdano?

  • Ei bod wedi'i gosod o dan y bilen gwrthleithder
  • Ei bod wedi'i chywasgu'n iawn a'r dyfnder cywir

Pilen gwrthleithder

Mae lleithder yn codi o'r ddaear o dan adeiladau'n broblem gyffredin, ac mae pilen gwrthleithder o bolyethylen yn helpu i gadw'r lleithder hwn allan.

Beth mae'r tîm rheoli adeiladu'n edrych amdano?

  • Ei bod y trwch cywir ac wedi'i gosod ar y lefel gywir
  • Ei bod wedi'i gosod yn gywir er mwyn peidio gadael i ddŵr fynd drwyddi – bydd hyn yn golygu lapio a thapio unrhyw uniadau a chysylltu'r bilen â'r cwrs gwrthleithder yn y waliau. Mae'n rhaid iddi allu cynnal y pwysau sy'n cael ei roi arni ac ni ddylai ddirywio wrth i'r blynyddoedd fynd heibio.
  • Nid oes angen pilen gwrthleithder ar gyfer llawr crog sydd hefyd yn cael ei osod ar gyrsiau gwrthleithder, ond mae'n bosibl y bydd angen pilen radon neu nwyon tir.

Concrit

Caiff haen o goncrit ei rhoi dros y defnydd inswleiddio neu oddi tano.

Beth mae'r tîm rheoli adeiladu'n edrych amdano?

  • Ei fod y dyfnder cywir – mae 100mm yn gyffredin
  • Ei fod y math cywir
  • Ei fod wedi'i osod yn iawn

Inswleiddio

Bydd haen o ddefnydd inswleiddio'n atal gwres rhag dianc drwy'r llawr.

Beth mae'r tîm rheoli adeiladu'n edrych amdano?

  • Bod y defnydd inswleiddio'n ddigon trwchus
  • Ei fod wedi'i osod yn gywir
  • Bod ganddo "werth thermol" digon da ac y bydd yn atal digon o golledion gwres i fodloni'r rheoliadau.
  • Bod 'pontydd thermol' wedi cael sylw er mwyn atal colledion gwres o gwmpas perimedr y llawr – troi'r defnydd inswleiddio am i fyny o gwmpas yr ymylon i atal anwedd a llwydni rhag ffurfio o gwmpas y byrddau sgyrtin.

Gosod draeniau yn slab y llawr

Caiff draeniau eu harchwilio cyn iddynt gael eu gorchuddio, neu eu hôl-lenwi ac yna mae'n rhaid profi eu bod yn aerglos ac yn dal dŵr ar ôl cwblhau'r gwaith. Mae draeniau â llif am yn ôl neu ddraeniau sydd wedi torri'n gallu achosi pob math o broblemau annymunol, llifogydd ac ansefydlogrwydd adeileddol.

Beth mae'r tîm rheoli adeiladu'n edrych amdano?

  • Eu bod wedi'u gwneud o ddefnyddiau addas
  • Bod y cwymp (graddiant) yn iawn
  • Bod y defnydd gwelyo mae'r draeniau'n eistedd arno yn ddigonol
  • Eu bod yn dilyn y llwybr cywir, gan osgoi rhwystrau
  • Bod nifer digonol o siambrau mynediad (mae hyn yn dibynnu ar hyd y beipen a'r cysylltau)
  • Bod profion aerglosrwydd a dal dŵr yn llwyddiannus

Adeiledd y to/trawstiau

Pam? Mae angen i'ch to gadw'r tywydd allan, gallu cynnal ei hun, gwrthsefyll colledion gwres ac awyru a draenio'r tŷ yn ddigonol, a gall fod angen i orchudd y to wrthsefyll lledaeniad tân o unrhyw adeiladau cyfagos gan ddibynnu pa mor bell i ffwrdd ydynt.

Beth mae'r tîm rheoli adeiladu'n edrych amdano?

  • Bod yr ongl yn addas i'r haen ddiddosi (oni bai ei fod yn do fflat sydd heb ongl)
  • Bod digon o ddefnydd inswleiddio wedi'i osod yn y man cywir
  • Bod awyru'n bresennol os oes ei angen
  • Bod yr adeiledd yn ddigonol

Rhagor o wybodaeth

Pa adeiledd llawr ddylwn i ei ddewis ar gyfer fy estyniad tŷ?

Pa broblemau sy'n gallu digwydd os yw pilen gwrthleithder yn methu?