Skip to main content
Pa adeiledd llawr ddylwn i ei ddewis ar gyfer fy estyniad tŷ?

Pa adeiledd llawr ddylwn i ei ddewis ar gyfer fy estyniad tŷ?

Project type

Mae lloriau isaf naill ai'n solet neu'n grog:

Solet

Llawr concrit solet

Manteision: Mae'n gallu bod yn llai costus a does dim angen peiriannau trwm

Anfanteision: Gan ei fod yn eistedd yn uniongyrchol ar y llawr, mae lleithder yn fwy tueddol o dreiddio drwyddo

Crog

Trawstiau a blociau

Trawstiau concrit wedi'u bwrw ymlaen llaw, a blociau concrit safonol 100mm o ddyfnder rhwng y trawstiau.

Manteision: anhyblyg, ddim yn bownsio, distawach na phren, hawdd a chyflym i'w gosod, hawdd eu defnyddio gyda gwresogi o dan y llawr, ddim yn dibynnu ar y tywydd, gallu cael ei ddefnyddio fel "pont" ar draws tir anwastad neu halogedig, neu dir â lefel trwythiad uchel. (Mae angen rhoi sylw i'r materion hyn cyn gosod y llawr.)

Anfanteision: costau cymharol uchel yn enwedig ar gyfer projectau llai fel estyniadau, ddim yn addas i olion troed â siâp afreolaidd.

Concrit wedi'i fwrw ymlaen llaw

Manteision: cyflym i'w osod a gellir ei osod mewn unrhyw dywydd, cryf.

Anfanteision: drud ac mae angen craen i'w codi nhw

Distiau-I pren

Distiau gwe metel agored

Distiau pren

Manteision: llai drud, ysgafn, hawdd gweithio â nhw

Anfanteision: gallu cymryd mwy o amser i'w gosod

D.S. Pwysig i bob math o lawr: Mae inswleiddio'n allweddol i'ch amddiffyn chi a'ch teulu rhag yr oerfel sy'n codi o wagle'r llawr a dylai fod yn bresennol bob amser, naill ai fel rhan o system y llawr neu wedi'i osod ar ben yr adeiledd llawr o'ch dewis.

Rhagor o wybodaeth

Beth mae amlinellu yn ei olygu o ran fy mhroject estyniad?