Skip to main content
Sut rydw i'n mynd i wresogi fy estyniad tŷ newydd?

Sut rydw i'n mynd i wresogi fy estyniad tŷ newydd?

Project type

Un mater pwysig i berchennog estyniad tŷ newydd yw gwneud yn siŵr ei fod wedi'i wresogi'n ddigonol ac yn effeithlon.

Boeler

Gan fod mwy o le i'w wresogi, mae'n bosibl y bydd angen boeler mwy pwerus i wneud hynny ac os felly, ceisiwch anelu am foeler cyddwyso sy'n effeithlon iawn o ran egni.

Dylid gosod falfiau thermostatig ar reiddiaduron newydd. Cofiwch, mae gosod boeler newydd yn gallu golygu bod angen gosod pibellau newydd, ac mae'n bosibl iddo darfu ar rannau eraill o'ch cartref, yn enwedig os bydd rhaid i chi symud y boeler.

Peidiwch â chael eich temtio i ddal gafael ar yr hen foeler i arbed arian a thrafferth, fodd bynnag, neu efallai na fydd eich tŷ chi'n gallu mynd yn ddigon cynnes yn y gaeaf.

Mae'n bwysig defnyddio plymer neu beiriannydd gwresogi cofrestredig Gas Safe i osod boeler nwy, ac un sydd wedi'i gofrestru ag OFTEC ar gyfer boeleri olew. Gallwch chi chwilio am grefftwr yma [dolen]

Mae gwresogi trydanol yn opsiwn, ond hwn yw'r tanwydd drutaf sy'n defnyddio'r mwyaf o garbon.

Gwresogi o dan y llawr

Mae dau fath o wresogi o dan y llawr – gwlyb a sych.

Gwlyb – pwmpio dŵr sydd wedi'i wresogi gan eich boeler (neu gan baneli solar thermol neu bympiau gwres) drwy bibellau yn y llawr.

Sych – defnyddio'r prif gyflenwad trydan

Er eu bod nhw'n gostus i'w gosod, mae'n debyg bod costau rhedeg hyd at 25% yn llai na system wresogi â rheiddiaduron yn unig wrth eu defnyddio gyda boeler cyddwyso modern, a hyd at 40% yn rhatach wrth eu cyfuno â phwmp gwres.

Mae system sych gwresogi o dan y llawr yn debyg o fod yn ddrutach, ond gallwch chi ddefnyddio amserydd i addasu'r perfformiad a'i defnyddio i gynhesu un ystafell yn unig yn annibynnol ar y brif system wresogi.

Inswleiddio

Dylai fod defnydd inswleiddio thermol yn waliau, to a lloriau eich estyniad. Yn gyffredinol, bydd defnydd inswleiddio yn y ceudod mewn waliau, bydd yn y to a gellir ei osod o dan goncrit eich llawr gwaelod hefyd.

Cofiwch fod llawer o ddefnydd inswleiddio'n gallu achosi problemau ag anwedd felly mae'n rhaid bod yn ofalus i sicrhau bod ystafelloedd, ac yn enwedig gwactod to, yn cael eu hawyru'n ddigon da.

Ffenestri

Fel rheol, bydd angen unedau gwydr dwbl 24mm sy'n cynnwys gwydr allyrredd isel, ac, oni bai bod gwelliannau egni'n cael eu gwneud yn y tŷ presennol, mae'r rheoliadau adeiladu'n cyfyngu arwynebedd ffenestri eich estyniad i 25% o arwynebedd y llawr adio arwynebedd unrhyw agoriadau presennol y mae'r estyniad yn eu gorchuddio.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch hefyd Sut rydw i'n atal lleithder gormodol yn fy nghartref