Pa faterion rheoliadau adeiladu sy'n ymwneud â gwaith dur yn fy estyniad tŷ newydd
Project type
Dur adeileddol
Mae angen i'r trawstiau dur sy'n cynnal yr adeiledd fod wedi'u dylunio'n ofalus gan beiriannydd adeileddol a bydd eich syrfëwr rheoli adeiladu'n archwilio'r dyluniadau hyn.
Trawst dur uwchben agoriadau
Os oes angen agoriad newydd mewn wal allanol, neu os yw agoriad sy'n bodoli'n cael ei wneud yn lletach, bydd angen trawstiau neu linteri addas i gynnal y wal uwchben yr agoriad. Bydd pob un yn ymestyn o leiaf 150mm y tu hwnt i'r agoriad (hwn yw'r cynhaliad) ar y wal sy'n bodoli. Efallai y bydd angen cerrig padio concrit i atal y rhan o dan y cynheiliaid rhag cael ei gwasgu.
Diogelwch tân
Mae trawstiau dur yn gallu plygu ac ystumio pan maen nhw'n boeth iawn, felly mae angen iddyn nhw allu gwrthsefyll tân am o leiaf 30 munud, ac mae nifer o ffyrdd o gyflawni hyn.
Haen ddwbl o fwrdd plastr o gwmpas y dur yw'r ffordd fwyaf cyffredin o gydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu, a bydd y trwch yn dibynnu ar fanylebau'r gwneuthurwyr. Gellir defnyddio bwrdd plastr arbennig sy'n gwrthsefyll tân hefyd.
Mae'n hanfodol bod hwn, neu unrhyw fesur diogelwch tân arall, yn cael ei osod yn gywir er mwyn iddo weithio'n iawn pe bai tân yn digwydd.
Rhagor o wybodaeth
Pa adeiledd llawr ddylwn i ei ddewis ar gyfer fy estyniad?
Pa faterion ddylwn i eu hystyried ar gyfer waliau fy estyniad newydd?