Cwestiynau cyffredin am nwy radon a nwyon daear
Project type
Weithiau, bydd awdurdodau lleol yn gosod amodau ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio sy'n ymwneud â gosod mesurau i amddiffyn rhag nwy daear. Mae gofynion rheoliadau adeiladu hefyd yn gysylltiedig ag amddiffyn rhag nwy daear (mae'r manylion ar gael yn Nogfen Gymeradwy C). Rydyn ni'n gobeithio y bydd ein cwestiynau cyffredin am nwy daear a nwy radon yn eich helpu chi i ddod i ddeall y pwnc.
Beth yw nwy daear?
Mae nwy daear fel rheol yn cyfeirio at garbon deuocsid a methan. Mae'r ddau o'r rhain yn cael eu cynhyrchu wrth i ficro-organebau ddadelfennu defnyddiau organig. Mae methan a charbon deuocsid yn aml yn cael eu cysylltu â safleoedd tirlenwi. Mae'r nwyon hyn hefyd yn gallu tarddu o: • Tir wedi'i ôl-lenwi neu dir gwneud (tir sy'n cynnwys llawer o ddefnyddiau artiffisial) sy'n cynnwys defnydd organig bioddiraddadwy. • Gwlyptiroedd neu briddoedd sy'n cynnwys llawer o ddefnydd organig, fel mawn. • Llenwadau anadweithiol (sylweddau cemegol anweithredol) fel lludw neu dywod ffowndri. • Nwy pridd sydd wedi mudo o ffynhonnell gyfagos. Yn unol â pholisi presennol y Llywodraeth i ailddatblygu safleoedd sydd wedi'u defnyddio o'r blaen, neu safleoedd tir llwyd, mae mwy a mwy o ddatblygiadau'n cael eu lleoli ar safleoedd sydd â'r potensial i allyrru nwy daear, neu'n agos at y safleoedd hyn. Mae nwy'n gallu mudo o'r safleoedd hyn neu gael ei ryddhau gan weithgareddau adeiladu, gan arwain at ryddhau cyfeintiau annerbyniol neu beryglus o nwy. Dylech chi hefyd fod yn ymwybodol o fesurau gofynnol os yw radon yn broblem yn eich ardal.
Beth yw radon?
Mae radon yn nwy ymbelydrol naturiol, a does ganddo ddim lliw, arogl na blas. Mae'n dod o'r symiau bach iawn o wraniwm sy'n bresennol ym mhob defnydd daear fel creigiau, priddoedd, brics a choncrit, a dyna pam mae'n fwy cyffredin mewn ardaloedd sy'n eistedd dros wenithfaen. Mae hyn yn cynnwys y Peak District, Dartmoor, Exmoor a rhannau mawr o Gernyw. Gallwch chi gael gwybod a yw'n debygol o effeithio ar eich eiddo chi yma: https://www.ukradon.org/information/ukmaps Rydyn ni'n gwybod bod radon yn cynyddu'r risg o ganser yr ysgyfaint yn ystod oes rhywun. Yr uned ar gyfer mesur ymbelydredd yw'r becquerel (Bq) ac mae Public Health England (PHE) yn argymell lleihau lefelau radon mewn cartrefi lle mae'r cyfartaledd yn fwy na 200 becquerel y metr ciwbig (Bq/m3). Gan ddibynnu ar ble mae eich eiddo a lefel y radon sydd wedi'i ddangos ar y map radon, efallai y bydd angen i chi wneud rhywbeth i amddiffyn rhag radon. Mae dwy lefel: Amddiffyn Sylfaenol: rhwystr (pilen) parhaus rhag radon ar draws holl ôl troed yr adeilad, gan gynnwys y waliau allanol. Amddiffyn Llawn: rhwystr parhaus rhag radon ar draws holl ôl troed yr adeilad, gan gynnwys y waliau allanol. Bydd hefyd yn cynnwys awyru o dan loriau (h.y. swmp radon (ceudod o dan y llawr neu uned blastig barod) â phibellau'n arwain at wal allanol gyfleus i gysylltu â gwyntyll echdynnu os yw lefelau radon dros 200 Bq/m3). Ar gyfer llawr concrit crog neu lawr trawstiau a blociau lle mae angen amddiffyniad llawn, dylid gosod brics aer o gwmpas perimedr yr adeilad bob 2m a heb fod fwy nag 1.4m oddi wrth y corneli. Mae'r awyru o dan y llawr yn cael ei ddefnyddio gyda'r bilen barhaus sydd wedi'i gosod ar draws ôl troed yr adeilad.
Pam mae angen mesurau amddiffyn rhag nwy yn fy estyniad os cafodd y prif dŷ a'r tai o'i gwmpas eu hadeiladu heb ddim byd i'w hamddiffyn?
Mae deddfwriaeth newydd wedi'i chyflwyno, ac rydyn ni'n deall risgiau nwy daear yn well ac yn gallu defnyddio dulliau gwell i'w ganfod, felly mae awdurdodau lleol yn gofyn am fesurau amddiffyn rhag nwy ym mhob datblygiad a allai wynebu risg. Mae'n bosibl bod eich tŷ wedi cael ei adeiladu heb y mesurau hyn ar adeg pan nad oedd pobl yn deall y gallai nwy tirlenwi neu radon fod yn risg. Os ystyrir bod posibl i'ch cartref wynebu risg oherwydd nwy tirlenwi neu nwy daear, gall yr awdurdod gorfodi perthnasol bennu amodau penodol. Efallai y gwelwch chi y bydd benthycwyr arian a phrynwyr posibl hefyd yn mynnu gwaith tebyg. Mae'n bwysig cael cyngor gan arbenigwr ynghylch a oes angen cynnwys mesurau amddiffyn rhag nwy er mwyn amddiffyn yr eiddo gwreiddiol.
Felly beth yw mesurau amddiffyn rhag nwy?
Pwrpas mesurau amddiffyn rhag nwy yw rhwystro llwybrau lle gallai nwy fudo. Fel rheol, mesurau 'goddefol' fydd y rhain, yn dibynnu ar greu gwahaniaeth athreiddedd rhwng yr eiddo a mannau lle gall nwy gael ei ryddhau i'r atmosffer (drwy wagle o dan lawr, er enghraifft), a defnyddio rhwystr cymharol anathraidd o fewn yr adeilad.
Faint fydd hyn yn ei gostio?
Chi sy'n dewis union fanylion y system amddiffyn rhag nwy i'w defnyddio, ond mae'n rhaid iddi fod yn addas i'r amodau yn y lleoliad. Gofynnwch am gyngor gan eich pensaer neu eich asiant ac, os oes angen, gan ddylunwyr systemau amddiffyn rhag nwy. Mae cost pilen nodweddiadol wedi cael ei chymharu â cost carped. Dydy pilen yn unig ddim yn ddigon, a gan ddibynnu ar eich dewisiadau chi a'ch dylunwyr, bydd cost awyru o dan y llawr yn amrywio gan ddibynnu ar fanyleb y dyluniad gwreiddiol. Fodd bynnag, ar safleoedd bach, mae'r costau gosod fel rheol yn llawer llai na chost arolwg nwy daear.
Ydy hyn yn golygu bod rhaid i mi gael llawr crog?
Na, cewch chi ddefnyddio slab concrit wedi'i fwrw yn y fan a'r lle, ond mae angen haen wedi'i hawyru o dan y slab. Mae llawer o ffyrdd o wneud hyn, â 'ffurfydd gwagle' pwrpasol neu 'flanced ronynnog'. Bydd eich pensaer neu eich asiant yn gallu rhoi cyngor. Mae'n rhaid bod yn ofalus wrth osod pilen oherwydd mae twll bach iawn (maint hoelen) yn gallu ei gwneud yn ddiwerth. Gwnewch yn siŵr bod y safle'n barod i osod y bilen (wedi'i sgubo'n lân ac ati) a gwnewch yn siŵr bod cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr yn cael eu dilyn wrth ei gosod. Mae hyn yn hanfodol er mwyn iddi weithio'n iawn.