Beth yw'r materion sy'n ymwneud ag adeiladu o gwmpas coed, llwyni a gwrychoedd
Project type
Dydy'r rhan fwyaf o goed ddim yn gwneud dim niwed i eiddo, yn enwedig o gwmpas cartrefi modern. (Yn ôl yr RHS.) A hyd yn oed oes yw'n ymddangos bod y risg yn uchel, dim ond canran bach o'r coed hyn fydd yn achosi ymsuddiant.
Beth yw ymsuddiant?
Pridd yn crebachu, gan achosi i sylfeini'r adeilad symud a chreu craciau yn yr adeiledd. Maen nhw fwyaf tebygol o ddatblygu o gwmpas drysau a ffenestri.
Coed, llwyni a gwrychoedd ar bridd clai
Gan fod pridd clai yn bridd glynol (gludiog) sydd wedi'i wneud o 40% dŵr, os yw coed a phlanhigion yn tynnu dŵr o'r ddaear, bydd cyfaint y pridd yn newid, yn crebachu ac yn symud. Dydy'r broblem ddim mor ddrwg os yw'r adeilad ar bridd tywodlyd neu bridd rhannol glai.
Yr adeiladau sy'n wynebu'r risg mwyaf yw rhai sydd hyd at bedwar llawr o uchder ac wedi'u hadeiladu cyn yr 1950au oherwydd yn gyffredinol bydd eu sylfeini'n fwy bas na chartrefi modern, ac mae sicrhau bod eich sylfeini y dyfnder cywir yn allweddol i atal symudiad.
Mae'r map Arolwg Daearegol Prydain hwn yn gallu eich helpu chi i gael gwybod pa fath o bridd sydd yn eich ardal, neu gwasgwch eich pridd – os yw'n cadw ei siâp a ddim yn briwsioni, mae'n debygol ei fod yn glai. Er, mewn amodau sych iawn, bydd hyd yn oed clai yn briwsioni.
Mae'r risgiau'n wahanol mewn priddoedd clai rhanbarthol
Mae gan briddoedd clai 'blastigrwydd' penodol (faint mae'r cyfaint yn newid gan ddibynnu ar faint o ddŵr sydd yn y pridd). Yr uchaf yw'r plastigrwydd, yr uchaf yw'r risg o symud:
- Uchaf: yn gyffredinol, yn Ne Ddwyrain Lloegr, i fyny drwy Ddwyrain Canolbarth Lloegr i'r Humber yn y Gogledd ac i lawr i Gaerfaddon yn y Gorllewin.
- Canolig: gweddill De Ddwyrain Lloegr, ar draws Canolbarth Lloegr ac i fyny y tu hwnt i Foryd yr Humber tuag at y Gogledd Ddwyrain. Mae rhai mannau unig hefyd yng Ngogledd Orllewin Lloegr yn agos at yr arfordir.
- Isel: Gweddill Cymru a Lloegr - ond mae rhywfaint o risg yma hefyd.
Hinsawdd
Yn ystod blynyddoedd poeth, sych a hafau poeth hir, mae mwy o risg o ymsuddiant neu ddifrod arall.
Mathau o goed a phlanhigion
Mae angen mwy o ddŵr ar rai coed nag eraill, felly maen nhw'n gallu gwneud i'r pridd grebachu mwy.
Mae coed sy'n cymryd mwy o ddŵr yn cynnwys y dderwen, y llwyfan, y goeden ewcalyptws, y ddraenen wen, y boplysen a'r helygen.
Mae llwyni fel y dân-ddraenen a wisteria hefyd yn gallu achosi ymsuddiant os ydyn nhw'n tyfu'n ddigon mawr.
Coed a draeniau
Bydd gwreiddiau coed yn tyfu i mewn i ddraeniau sydd ddim yn ddwrglos.
Dyfnder sylfeini
Defnyddiwch Gyfrifiannell Dyfnder Sylfeini Gwarant yr LABC i ddarganfod pa mor ddwfn dylai eich sylfeini fod i osgoi'r problemau hyn.
Rhagor o wybodaeth
Darganfyddwch sut bydd y math o bridd yn effeithio ar eich project gwella cartref