Sut bydd fy math o bridd yn effeithio ar fy mhroject adnewyddu cartref?
Project type
Un o'r pethau pwysig y bydd y pensaer neu'r dylunydd yr ydych yn eu dewis i weithio gyda chi ar eich adeiledd yn eu hystyried yw'r math o bridd y bydd yn sefyll arno, ac mae'n bosibl y bydd yn ymgynghori â pheiriannydd adeileddol neu arbenigwr geotechnegol i wirio'r math ac amodau'r tir.
Mae hyn yn bwysig dros ben er mwyn i'r adeiledd aros yn gadarn heb beryglu'r prif adeiledd os mai estyniad ydyw.
Clai
Mae clai'n tueddu i leihau a chwyddo felly os nad yw'r sylfeini'n ddigon dwfn (i osgoi'r haen lai sefydlog sy'n gallu newid gan ddibynnu ar amodau'r tywydd a phresenoldeb coed neu eu torri), neu os nad ydynt y math cywir, gallai eich adeiledd fynd yn ansefydlog.
Yn gyffredinol, bydd angen i sylfeini mewn priddoedd clai fod o leiaf 1m o ddyfnder a hyd yn oed hyd at 3m o ddyfnder – efallai yr hoffech ystyried sylfeini wedi'u peiriannu neu sylfeini â pholion ynddynt i leihau amser ac o bosibl costau.
Tywod a graean
Fel rheol, gall y mathau hyn o bridd gynnal llwythi sylfeini trwm ond os yw lefel dŵr daear yn uchel neu os yw'r tywod neu'r graean yn rhydd iawn, bydd angen cymryd mesurau gwahanol ac felly dylech ymgynghori â pheiriannydd adeileddol.
Craig
Mae craig yn gallu bod yn sylfaen sefydlog dros ben i adeiladu arni, ac weithiau gellir gosod y sylfaen yn union ar y graig, ond os yw'r graig yn anhydraidd i ddŵr, mae'n bosibl y bydd angen system ddraenio.
Sialc
Mae rhew'n gallu effeithio ar sialc, ac mae'n bosibl y bydd yr haen uchaf yn eithaf meddal o ganlyniad i hyn, felly bydd angen adeiladu sylfeini digon dwfn i osgoi'r haen hon.
Mawn
Mae mawn yn eithriadol o heriol i adeiladu arno gan ei fod yn aml yn ddwrlawn ac yn methu cynnal llwythi trwm. Felly lle bo'n bosibl, mae'n rhaid cloddio'r haen o fawn ac adeiladu'r sylfeini ar dir mwy sefydlog.
Tir wedi'i lenwi
Tir sydd wedi'i gloddio allan o'r blaen a'i lenwi â chreigiau a rwbel yw hwn. Yn gyffredinol, mae angen ei gloddio i ddyfnder o dan yr haen fewnlenwi i ddod o hyd i sail sefydlog, ac yn aml bydd sylfeini â pholion ynddynt yn fwy addas.
Bydd gan dîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol wybodaeth leol arbenigol am amodau'r tir a'r datrysiadau addas, felly rydym yn eich cynghori i gysylltu â hwy cyn gwneud eich cais rheoliadau adeiladu.