Yn ystod cam dylunio eich project, cyn i unrhyw waith gael ei wneud, un peth pwysig y bydd angen i chi ei wneud yw darganfod a oes carthffosydd neu ddraeniau ochrol (pibellau sy'n cludo dŵr gwastraff o'ch eiddo i garthffos) o dan yr adeiledd arfaethedig.
Drwy wneud hyn yn gynnar, gallwch chi osgoi oediadau costus, gwaith heb ei gynllunio, neu waith atgyweirio difrod i bibellau.
Hyd yn oed os oes gennych chi hawliau datblygiad a ganiateir ar gyfer eich gwaith adeiladu, bydd angen caniatâd gan eich awdurdod dŵr lleol hefyd os ydych chi'n adeiladu dros ddraeniau a charthffosydd, neu'n agos atynt.
Sut rydw i'n cael gwybod os oes draeniau neu garthffosydd yno?
Efallai y bydd yn amlwg os oes siambr archwilio neu dwll archwilio yn eich gardd neu eich patio (os oes gennych chi orchudd twll archwilio), ond fel arall efallai y gallwch chi gael gwybod gyda chymorth…
- Eich adeiladwr
- Eich pensaer
- Dogfennau cyfreithiol eich eiddo
- Eich awdurdod dŵr
Weithiau, fydd dim draeniau i'w gweld nes bod gwaith cloddio'n dechrau ar y safle.
Draeniau
Os ydych chi'n bwriadu adeiladu o fewn metr i ddraen cyhoeddus, bydd angen cytundeb adeiladu drosodd. Caniatâd yw hwn gan eich awdurdod dŵr lleol, a gallwch chi gael gwybodaeth am sut i wneud cais am un ar wefan eich awdurdod dŵr.
Efallai y bydd angen i chi wneud gwaith ychwanegol i fodloni eu meini prawf ar gyfer caniatâd – er enghraifft, symud pibellau neu siambr archwilio.
Mae'r rheoliadau adeiladu'n argymell ystyriaethau arbennig os caiff estyniad ei adeiladu â'r amodau canlynol. Mae hyn oherwydd y gallai'r amodau amharu ar y gwaith adeiladu (neu hyd yn oed ei atal):
- Os yw ar rai mathau o bridd o fewn tri metr i'r draen.
- Os yw hyd y draen o dan y gwaith adeiladu yn fwy na chwe metr rhwng mannau mynediad.
- Os yw diamedr y draen yn mesur dros 225mm.
- Os yw dyfnder y draen yn fwy na thri metr heb fesurau amddiffyn arbenigol a gyda chytundeb y cwmni sy'n darparu'r gwasanaethau carthffosiaeth.
Bydd angen gwirio dyfnder y draen hefyd oherwydd os yw'n rhy fas, efallai na fydd yn gallu draenio eich estyniad neu efallai y bydd yn rhy agos i slab eich llawr. Ac os yw'r draen yn ddwfn iawn, efallai y bydd angen i chi adeiladu sylfeini dyfnach.
Carthffosydd
Os ydych chi'n gobeithio adeiladu dros garthffos gyhoeddus, neu o fewn tri metr iddi, bydd angen cytundeb adeiladu drosodd â'ch awdurdod dŵr lleol (cysylltwch â'ch cyflenwr dŵr i gael manylion). Bydd angen i'ch syrfëwr rheoli adeiladu weld y cytundeb adeiladu drosodd cyn gallu cyhoeddi tystysgrif gwblhau.
Efallai y bydd angen darparu llwybr arall i'r garthffos o leiaf dri metr oddi wrth yr adeilad er mwyn gallu ei hailgyfeirio os oes angen.
Bydd angen amddiffyn y garthffos yn ystod y gwaith adeiladu i atal difrod.
Tyllau archwilio a siambrau archwilio
Os oes twll archwilio neu siambr archwilio sy'n gwasanaethu mwy nag un eiddo, allwch chi ddim adeiladu drosto.
Rhagor o wybodaeth
Dogfen Gymeradwy H – Draenio a Gwaredu Gwastraff
A pheidiwch ag anghofio, gallwch chi siarad â thîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cyn cyflwyno eich cais rheoli adeiladu.