Skip to main content
Beth yw'r materion sy'n ymwneud â'r llwyth ar y llawr yn fy ystafell ymolchi newydd?

Beth yw'r materion sy'n ymwneud â'r llwyth ar y llawr yn fy ystafell ymolchi newydd?

Project type

Os ydych chi'n adeiladu ystafell ymolchi newydd, yn newid defnydd ystafell i'w gwneud hi'n ystafell ymolchi, neu'n gosod baddon haearn trwm yn lle baddon acrylig neu ddur ysgafn, mae angen ystyried y llwyth ychwanegol.

Mae'n bosibl na fydd lloriau pren, yn enwedig mewn cartrefi hŷn, yn ddigon cryf i gynnal y pwysau ychwanegol ac fel rheol bydd angen dyblu distiau o dan ystafelloedd ymolchi.

Bydd peiriannydd adeileddol neu syrfëwr (ag yswiriant indemniad proffesiynol) yn helpu i benderfynu a oes angen hyn ac yn darparu cyfrifiadau a manyleb ar gyfer y llawr.

Mae'n bosibl y bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu os bydd rhaid cryfhau'r llawr.

Rhagor o wybodaeth

Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer fy ystafell ymolchi?

Cwestiynau cyffredin am geisiadau Rheoliadau Adeiladu