Sut dylwn i awyru fy ystafell ymolchi?
Project type
Mae awyru'n hanfodol mewn ystafell ymolchi i helpu i gyfyngu ar anwedd ac osgoi llwydni a malltod a'r problemau iechyd cysylltiedig drwy ostwng lefel y lleithder a chael gwared ag anwedd dŵr wrth iddo ymddangos. Bydd hefyd yn cael gwared ag arogleuon ac yn golygu llai o waith cynnal a chadw gwaith paent a phlastr.
Gosod gwyntyll echdynnu (mae hyn yn ofyniad rheoliadau adeiladu ar gyfer ystafelloedd ymolchi newydd) a chau'r drws tra bod y wyntyll ymlaen. Mae angen echdynnu'r aer llaith allan o'r adeilad. Gallwch chi ddewis o'r gwyntyllau sylfaenol iawn sydd wedi'u gwifro i mewn gyda'ch switsh golau, i wyntyllau sy'n gallu canfod lefelau lleithder a rhai sy'n rhedeg yn gyson (a dylai hyn fod yn dawel) ar lefel isel. Dylai gwyntyllau echdynnu ysbeidiol allu echdynnu 15 litr yr eiliad a dylai rhai parhaus allu echdynnu 8 litr yr eiliad. Mae'n rhaid awyru'r wyntyll drwy'r wal neu'r to allan o'r adeilad.
Gallwch chi wella'r awyru cefndir drwy osod a defnyddio awyrellau diferu neu awyrellau slot yn eich ffenestri (mae hyn hefyd yn ofyniad rheoliadau adeiladu ar gyfer ffenestri newydd), neu agor ffenestr.
Defnyddio rheolydd lleithder fel mesur dros dro ar gyfer lleithder gafodd ei adael yn y tŷ ers y gwaith adeiladu.
Systemau awyru tŷ cyfan
Mae'n bosibl ôl-osod y systemau hyn yn eich cartref, ond cofiwch y bydd angen gosod tiwbiau fydd yn achosi aflonyddwch a goblygiadau o ran cost:
System adennill gwres neu awyru mecanyddol gydag adennill gwres sy'n echdynnu gwres o hen aer ac yn ei ddychwelyd i'r aer ffres sy'n cael ei anfon o gwmpas eich cartref.
System awyru mewnbwn positif sy'n cyflenwi aer ffres o uned sydd wedi'i gosod yn yr atig neu ar wal mewn fflat.