Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer fy ystafell ymolchi
Project type
Ailosod ystafell ymolchi
Os mai dim ond gosod unedau a ffitiadau newydd sy'n debyg i'r hen rai rydych chi, fydd dim angen cymeradwyaeth rheoli adeiladu fel rheol.
Fodd bynnag, os ydych chi'n addasu'r cynllun presennol drwy daro waliau i lawr, gosod cawod ar wahân neu estyn rhediadau peipiau gwastraff basn ymolchi, cawod neu faddon, er enghraifft, bydd angen cymeradwyaeth.
Os ydych chi'n gosod baddon haearn bwrw trwm yn lle baddon dur neu acrylig ysgafn, efallai y bydd angen cryfhau'r llawr ac os felly bydd angen i chi wneud cais rheoliadau adeiladu. Os oes gennych chi amheuon, siaradwch â thîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol.
Newid defnydd neu ychwanegu ystafell ymolchi newydd
Os ydych chi'n newid defnydd ystafell i adeiladu ystafell ymolchi – er enghraifft, mewn ystafell oedd yn arfer bod yn ystafell wely neu'n fan storio, bydd angen cymeradwyaeth rheoli adeiladu ar gyfer unrhyw ddraeniau, peipiau gwastraff a systemau awyru echdynnu newydd, ac ar gyfer unrhyw addasiadau adeileddol yr hoffech eu gwneud.
Hefyd, bydd angen ystyried y llwyth ychwanegol sy'n cael ei roi ar y llawr gan bwysau baddon yn llawn dŵr.
Mae'n rhaid i unrhyw waith trydanol mewn ystafell ymolchi gael ei wneud gan drydanwr cymwysedig, a bydd rhaid i'r gwaith gael ei archwilio gan y tîm rheoli adeiladu neu ei ardystio gan y trydanwr os yw'n aelod o gynllun unigolion cymwys.
Os caiff ffitiad nwy, boeler neu gylched drydanol newydd ei gosod, gallwch chi chwilio am unigolyn cymwys sydd wedi'i gofrestru i hunanardystio'r gwaith.
(Gallwch chi ddod o hyd i fanylion cyswllt eich adran rheoli adeiladu leol, neu chwilio am unigolyn cymwys sy'n gallu hunanardystio, uchod.)
D.S. mae'n ofyniad mewn cartrefi newydd bod TMV (thermostatic mixing valve / falf cymysgu thermostatig) yn cael ei gosod ar faddon er mwyn gallu cyfyngu tymheredd uchaf dŵr poeth i 48 gradd canradd. Dydy hyn ddim yn ofyniad mewn aneddiadau sy'n bodoli, ond dylech chi ystyried gosod un i atal sgaldio.
Rhagor o wybodaeth
A oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer fy ystafell ymolchi newydd?
Sut ydw i'n gwneud cais rheoliadau adeiladu?
Pa reoliadau adeiladu sy'n berthnasol i ddraeniau yn yr ystafell ymolchi?