Skip to main content
A allaf i ddefnyddio toiled neu gawod â mwydwr

A allaf i ddefnyddio toiled neu gawod â mwydwr

Project type

Mae toiled â mwydwr yn gallu bod yn ddefnyddiol os oes angen toiled ychwanegol yn eich cartref ac os nad yw'r draeniau dŵr budr yn y lleoliad cywir. Maent yn gallu creu sŵn ac yn dueddol o gael eu blocio os caiff pethau amhriodol fel llieiniau clwt eu fflysio, ond mae'n aml yn llai drud gosod un nag estyn eich system garthion bresennol.

Mae'r rheoliadau adeiladu'n caniatáu toiledau mwydwr fel Saniflo ond dim ond os oes gennych chi doiled disgyrchiant normal hefyd (h.y. mae angen toiled heblaw'r mwydwr yn eich cartref rhag ofn i'r pŵer fethu). Mae angen i'r gwastraff wedi'i fwydo (ei dorri'n ddarnau) ddraenio i'r garthffos o hyd, ond mae'n defnyddio peipen â diamedr llai a phwmp. Mae angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.

Rhagor o wybodaeth

I gael cyngor am doiledau mwydwr a sut i'w defnyddio nhw'n gywir, darllenwch: https://www.labc.co.uk/news/when-can-i-install-macerator-instead-of-gravity-fed-wc

Dogfen Gymeradwy G y rheoliadau adeiladu sy'n ymwneud â glanweithdra, diogelwch dŵr poeth ac effeithlonrwydd dŵr. 

((Diolch i saniflo.co.uk am y llun)