Skip to main content
Sut ydw i'n delio â lleithder yn fy ystafell ymolchi?

Sut ydw i'n delio â lleithder yn fy ystafell ymolchi?

Project type

Mae anwedd yn gallu digwydd yn unrhyw le yn eich cartref, ond mae'n arbennig o dueddol o ddigwydd mewn ystafelloedd ymolchi wrth i'r anwedd dŵr sy'n cael ei greu gan gawodydd a baddonau poeth daro arwynebau oerach waliau, nenfydau, teils, drychau a ffenestri.

Dyma rai ffyrdd o reoli'r lleithder yn eich ystafell ymolchi ac atal problemau iechyd sy'n cael eu hachosi gan lwydni, heb sôn am y difrod i'ch gwaith paent:

  • Awyru – defnyddiwch wyntyll echdynnu addas a/neu agorwch eich ffenestri bob tro rydych chi'n cael cawod, a chofiwch am ofynion y rheoliadau adeiladu o ran awyru yn eich ystafell ymolchi.
  • Gwresogi o dan y llawr - y cynhesaf yw eich ystafell ymolchi, y lleiaf o arwynebau oerach fydd yno i anwedd dŵr gyddwyso arnynt felly meddyliwch am y math hwn o wresogi i gadw'r tymheredd yn uwch.
  • Sychu eich drych ac arwynebau eraill lle mae anwedd yn casglu cyn i chi adael yr ystafell, neu ddefnyddio drych sy'n cynnwys dadanweddwr.
  • Cawodydd oerach i leihau faint o leithder sydd yn yr ystafell, os gallwch chi eu goddef nhw.
  • Paent gwrth-anwedd ar y nenfwd uwchben eich cawod i helpu i atal llwydni.

Rhagor o wybodaeth

Sut dylwn i awyru fy ystafell ymolchi?