Sut rydw i'n atal fy ystafell wydr rhag gorboethi?
Project type
Mae cynnydd solar (gorboethi) yn broblem gyffredin mewn ystafelloedd gwydr a gellir ei leihau drwy gymryd y camau canlynol:
- Cyfyngu ar faint ac arwynebedd agoriadau fel drysau a ffenestri.
- Cysgodi neu gyfeirio drysau a ffenestri oddi wrth olau haul uniongyrchol. Bydd ystafell wydr sy'n wynebu'r de'n mynd yn boethach nag un sy'n wynebu'r gogledd.
- Defnyddio defnyddiau adlewyrchol ar y gwydr a'r ffabrig adeiladu.
- Defnyddio fentiau ffenestri, gwyntyllau a llenni wedi'u rheoli'n awtomatig â synwyryddion tymheredd.
- Gosod gwydrau arbennig, er enghraifft gwydrau solar neu wydr sy'n adlewyrchu gwres.
Gwybodaeth gysylltiedig
Sut rydw i'n atal dŵr rhag mynd i mewn i fy ystafell wydr a difrodi fy nghartref?