Beth yw'r problemau cyffredin ag ystafelloedd gwydr?
Project type
Bod yn rhy oer yn y gaeaf
Dydy ystafell wydr ddim wir wedi'i dylunio i gael ei defnyddio drwy gydol y flwyddyn. Dyma pam mae'n bwysig bod yr ystafell wydr wedi'i gwahanu'n thermol oddi wrth y tŷ â drysau o ansawdd allanol a pham na chewch chi estyn eich gwres canolog i mewn i ystafell wydr eithriedig.
Gwnewch yn siŵr bod unrhyw waliau a gwydrau (ffenestri neu wydrau to) yn addas i amddiffyn rhag y tywydd ac o ansawdd sy'n cydymffurfio â'r holl safonau perthnasol.
Cofiwch fod y gwydrau yn unrhyw ystafell wydr yn elfen adeileddol, nid dim ond panel gwydr.
Mae angen i chi fod yn siŵr hefyd bod y gwydr yn ddigon gwydn mewn mannau critigol.
Gorboethi yn yr haf
Efallai yr hoffech chi osod llenni, cysgodlenni neu hyd yn oed do solet ond cofiwch y gallai to solet atal eich ystafell wydr arfaethedig rhag bod yn eithriedig.
Sut rydw i'n atal fy ystafell wydr rhag gorboethi?
Saernïaeth
Os yw eich to'n gollwng neu os yw eich drws yn mynd yn sownd, cysylltwch â'r cwmni a werthodd yr ystafell wydr neu'r drws i chi yn gyntaf, ac os cewch chi ganlyniad annisgwyl, defnyddiwch y tudalennau cyngor hyn gan Which
Sut i gwyno os ydych chi'n anhapus â gwaith adeiladu
Sut i atal dŵr rhag mynd i mewn i fy ystafell wydr a difrodi fy nghartref