Pa sylfeini sydd eu hangen ar fy ystafell wydr??
Project type
Yn y bôn, mae sylfeini'n bodoli i ddal yr adeiledd uwch eu pen yn ei le. Heb sylfaen, gallai eich ystafell wydr ddioddef craciau neu ymsuddiant; gallai hyn achosi difrod sylweddol.
Fydd dim angen i syrfëwr rheoli adeiladu archwilio sylfeini ystafell wydr eithriedig, a gallech chi ddewis defnyddio cynllun sail barod neu adeiladu un ar y safle.
Hyd yn oed os nad oes angen cymeradwyaeth (os yw eich ystafell wydr wedi'i heithrio rhag y rheoliadau adeiladu) bydd angen seilio dyfnder eich sylfeini ar ffactorau fel y canlynol er mwyn osgoi problemau sy'n gysylltiedig â symud adeileddol neu leithder yn eich ystafell wydr:
- amodau'r ddaear
- dyfnder sylfeini'r tŷ sy'n bodoli
- lleoliad unrhyw ddraeniau
- llwyth yr adeiledd
Bydd gosodwr, dylunydd neu adeiladwr eich ystafell wydr yn gallu rhoi cyngor am y sylfeini cywir i'r gwaith, ac os oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu (gallwch chi gael gwybod am hyn yma) bydd tîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol yn gallu helpu.
Rhagor o wybodaeth
A fydd angen cwrs gwrthleithder?
Mae gan fy nhŷ bilen nwy - a fydd angen un ar yr ystafell wydr hefyd?