Skip to main content
A oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer fy ystafell wydr?

A oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer fy ystafell wydr?

Project type

Cewch chi adeiladu rhai adeileddau heb ganiatâd cynllunio os yw "hawliau datblygu a ganiateir" y Llywodraeth yn berthnasol.

Bydd datblygu a ganiateir yn aml yn berthnasol i ystafell wydr (os nad ydych chi'n byw mewn adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth) ond bydd rhaid iddi gydymffurfio â chyfres benodol o amodau sy'n rheoli pethau fel arwynebedd, uchder a lled yr adeiledd arfaethedig a beth sy'n ei wahanu oddi wrth eich cartref.

Darllenwch y dudalen hon gan y Llywodraeth i gael manylion llawn (gan gynnwys diagramau) neu siaradwch ag adran gynllunio eich cyngor lleol i gael gwybod a oes angen caniatâd cynllunio arnoch chi ai peidio.

Hyd yn oed os nad oes angen caniatâd cynllunio, efallai yr hoffech chi wneud cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon.

Ystafelloedd gwydr mewn adeiladau rhestredig

Bydd angen caniatâd adeilad rhestredig gan adran gynllunio eich cyngor lleol, felly mae'n well siarad â nhw. Mae gan Historic England gyngor ynglŷn a gwaith ar adeiladau rhestredig yn Lloegr, fel man cychwyn.

Cymru: https://cadw.gov.wales/advice-support/historic-assets/listed-buildings/listed-building-consent

Ystafelloedd gwydr mewn ardaloedd cadwraeth

Cewch chi adeiladu ystafell wydr mewn ardal gadwraeth o dan rai amodau penodol. Cysylltwch ag adran gynllunio eich cyngor i gael cyngor. Eto, mae Historic England yn fan da i ddechrau cael gwybodaeth am adeiladau hanesyddol.

Cymru: https://www.planningportal.co.uk/wales_en/info/5/applications/58/consent_types/5

Rhagor o wybodaeth

A oes angen cais rheoliadau adeiladu ar gyfer fy ystafell wydr?

Related Content

No related content found