Skip to main content
Sut i atal dŵr rhag mynd i mewn i fy ystafell wydr a difrodi fy nghartref

Sut i atal dŵr rhag mynd i mewn i fy ystafell wydr a difrodi fy nghartref

Project type

I atal dŵr rhag dod i mewn i'ch ystafell wydr newydd sbon, dylid gosod cwrs gwrthleithder (DPC) llorweddol yn waliau'r ystafell wydr, ac mae'n rhaid i hwn fod yn barhaus ag adeiladwaith wal y prif dŷ i atal unrhyw ollyngiadau (h.y. dim bylchau).

Mae'n rhaid gosod blychau ceudod (DPC sy'n croesi ceudod y wal) a seliau plwm allanol addas (darnau o ddefnydd sy'n gorchuddio teils ac yn ymestyn i fyny'r wal) os yw to'r ystafell wydr yn cyffwrdd â wal y prif dŷ, yn union fel pe baech chi'n adeiladu rhandy arferol â theils neu do fflat.

Mae angen i chi roi sylw manwl i fanylion gwrthleithder yn y mannau lle mae waliau'r ystafell wydr yn cwrdd â waliau'r tŷ presennol i atal dŵr rhag mynd i mewn a difrodi'r adeiledd presennol. 

Os yw ffenestri'r ystafell wydr yn pwyso yn erbyn wal y prif dŷ (naill ai fel ffenestr gyfunol uchder llawn neu ddrws oddi ar y DPC neu uwchben corwal (y wal frics yn y llun uchod)) dylid darparu caewr ceudod DPC fertigol wedi'i inswleiddio (sy'n gweithredu fel sêl, gan atal dŵr a lleithder allanol rhag mynd i mewn i'r wal).

Dylai llawr yr ystafell wydr hefyd gynnwys pilen wrthleithder sydd wedi'i chysylltu â'r DPC llorweddol.

Rhagor o wybodaeth

A fydd angen cwrs gwrthleithder ar fy ystafell wydr newydd?

Related Content