Pam mae trawstiau a linteri'n bwysig
Mae angen trawstiau dros agoriadau adeileddol uwchben ffenestri, drysau, bwâu a rhwng ystafelloedd er mwyn cynnal yr adeilad.
Mae'n rhaid dylunio'r trawstiau hyn i ystyried eu safle, lled yr agoriad a'r pwysau neu'r llwyth y maent yn ei gynnal.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- distiau dur rholio (RSJs)
- linteri dur wedi'u ffabrigo
- linteri concrit cyfnerth
- neu hyd yn oed trawstiau pren
Yn ogystal ag archwilio'r trawstiau hyn, bydd eich syrfëwr rheoli adeiladu hefyd yn archwilio'r waliau neu'r cerrig padio y maent yn eistedd arnynt.
Pan fyddant yn eu lle ac wedi'u harchwilio, caiff y cynheiliaid adeileddol eu diogelu rhag tân.
Gallai eich to fod yn fflat neu ar ongl, gallai fod ystafelloedd ynddo neu wagle atig. Gallai fod wedi'i wneud mewn ffatri cyn cael ei godi i'w le, neu wedi'i adeiladu ar y safle. Gallai fod wedi'i orchuddio â theils, llechi, gwellt, ffelt neu fetel. Bydd wedi'i inswleiddio a'i awyru i fod yn thermol effeithlon ac i atal anwedd rhag ffurfio. Caiff y manylion hyn i gyd eu harchwilio ar y safle.