Skip to main content
Y rheoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio ar gyfer adeiladau rhestredig

Y rheoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio ar gyfer adeiladau rhestredig

Project type

Pryd mae angen caniatâd adeilad rhestredig?

Mae byw mewn adeilad rhestredig yn golygu y gallai unrhyw newidiadau i unrhyw rannau o'r tŷ y mae'r rhestriad yn berthnasol iddynt effeithio ar ei ddiddordeb arbennig ac y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig.

Ni cheir dymchwel, estyn nac addasu adeilad rhestredig heb ganiatâd arbennig gan eich awdurdod cynllunio lleol, yn enwedig i wneud addasiadau sylweddol i'r adeiladau rhestredig mwyaf neilltuol.

Mae gwahanol gategorïau adeiladau rhestredig yng Nghymru a Lloegr:

Gradd I: adeiladau o ddiddordeb eithriadol.

Gradd II: adeiladau o ddiddordeb arbennig sy'n haeddu pob ymdrech i'w gwarchod.

Gradd II*: adeiladau arbennig o bwysig o ddiddordeb mwy nag arbennig.

Dan rai amgylchiadau, bydd rhaid i berchenogion adeiladau rhestredig eu hatgyweirio a'u cynnal a'u cadw, a gallant wynebu erlyniad troseddol am beidio â gwneud hynny neu am wneud addasiadau heb awdurdod.

Pan ganiateir addasiadau, neu pan gaiff adeiladau rhestredig eu hatgyweirio neu eu cynnal a'u cadw, yn aml bydd angen i'r perchenogion ddefnyddio defnyddiau penodol neu dechnegau sy'n briodol i oed yr adeilad.

Gall y rhestriad fod yn berthnasol i bob adeiledd yng nghwrtil yr adeilad (y tir yn union o'i gwmpas) fel tai allan, felly dylech wirio hyn cyn gwneud unrhyw addasiadau.

Cyn gwneud unrhyw waith, siaradwch â'ch adran gynllunio neu eich swyddog cadwraeth lleol a fydd yn gallu dweud wrthych pa waith y gellir ei wneud, a'r ffordd orau o'i wneud er mwyn cadw cymeriad ac edrychiad eich adeilad.

A yw caniatâd cynllunio'n wahanol ar gyfer adeiladau rhestredig?

Nid oes gwahaniaeth o ran yr angen am ganiatâd cynllunio ar gyfer adeiladau rhestredig, ond mae'n bosibl y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig yn ogystal â chaniatâd cynllunio.

A yw'r rheoliadau adeiladu'n wahanol ar gyfer adeiladau rhestredig?

Un myth poblogaidd yw bod adeiladau rhestredig yn eithriedig rhag cydymffurfio â Rhan L y rheoliadau adeiladu, sy'n ymdrin ag effeithlonrwydd egni ac arbed tanwydd.

Mae'n dderbyniol llacio'r rheoliadau mewn rhai ffyrdd, a bydd eich syrfëwr rheoli adeiladu lleol yn gallu rhoi cyngor i chi.

Yn gyffredinol, dylai eich cartref fod mor effeithlon â phosibl o ran egni gan gadw ei natur arbennig. Mae llawer o adeiladau rhestredig, er enghraifft, wedi'u hadeiladu o ddefnyddiau traddodiadol fel cerrig, clom a dellt a phlastr a ddylai allu anadlu; ni fyddai'n addas inswleiddio'r rhain, eu rendro na gosod leinin sych drostynt.

Hefyd, fel rheol bydd rhaid i chi ddefnyddio ffenestri pren naill ai â gwydr sengl neu wydr dwbl tenau arbennig gan ddibynnu ar ofynion eich swyddog cadwraeth lleol.

Yn gyffredinol, bydd rhaid cydymffurfio â phob rhan arall o'r rheoliadau adeiladu.

Rhagor o wybodaeth

Mae gwybodaeth bellach am effeithlonrwydd egni mewn adeiladau hanesyddol ar gael yn: https://historicengland.org.uk/images-books/publications/energy-efficiency-historic-buildings-ptl/heag014-energy-efficiency-partll/