Skip to main content
Beth ddylwn i ei wneud os nad ydw i'n cael caniatâd cynllunio?

Beth ddylwn i ei wneud os nad ydw i'n cael caniatâd cynllunio?

Project type

Os caiff eich cais ei wrthod, nid yw hyn yn golygu na wnaiff eich prosiect ddigwydd o gwbl ac ni fydd angen talu ffioedd enfawr.

I ddechrau, efallai y cewch rybudd ymlaen llaw gan eich swyddog cynllunio bod eich cynigion yn debygol o gael eu gwrthod, felly efallai y gallwch addasu rhai agweddau er mwyn iddynt allu eu cymeradwyo.

Os caiff caniatâd ei wrthod yn llwyr, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad ac efallai y penderfynwch gyflogi ymgynghorydd cynllunio i reoli eich apêl (gwnewch yn siŵr ei fod yn aelod siartredig o'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol), os mai dyma'r trywydd yr hoffech ei ddilyn.

Gallwch hefyd ymgeisio eto, heb dalu ffi arall i'r cyngor. Yn gyffredinol, bydd y cyngor yn cynnig gwasanaeth ailgyflwyno am ddim, cyn belled â bod hyn o fewn 12 mis ar ôl y penderfyniad am eich cais cyntaf.

Wrth gwrs, dylai'r dyluniad newydd ystyried y rhesymau dros wrthod y cais ac unrhyw gyngor a roddwyd i chi. Gallech hyd yn oed addasu eich dyluniad fel ei fod yn ddatblygiad a ganiateir.

Cofiwch, bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer unrhyw estyniad neu drawsnewidiad, os oes angen caniatâd cynllunio ai peidio.

Rhagor o wybodaeth

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng caniatâd cynllunio a rheoli adeiladu?