Skip to main content
Beth yw'r rhesymau cyffredin dros wrthod caniatâd cynllunio?

Beth yw'r rhesymau cyffredin dros wrthod caniatâd cynllunio?

Project type

Fel rheol, rhoddir caniatâd cynllunio cyn belled â bod y gwaith sy'n cael ei gynnig yn bodloni'r holl bolisïau lleol perthnasol a Chynllun Lleol eich cyngor os yn berthnasol.

Dyma'r rhesymau mwyaf cyffredin dros wrthod:

  • Byddai eich prosiect yn taflu cysgod ar gymydog fel bod ganddynt lai o olau
  • Mae eich adeilad neu adeiledd yn edrych dros gartrefi eraill fel bod ganddynt lai o breifatrwydd
  • Byddai'r edrychiad yn wahanol i gymeriad yr eiddo sy'n bodoli
  • Gorddatblygu yn yr ardal leol
  • Os ystyrir ei fod yn cael effaith anffafriol ar ddiogelwch ffordd fawr gyhoeddus
  • Rydych wedi penderfynu defnyddio defnyddiau peryglus
  • Bydd yn effeithio ar goed neu gadwraeth natur fel ystlumod neu fadfallod dŵr prin
  • Mae eich eiddo'n adeilad rhestredig neu mewn ardal gadwraeth

Fodd bynnag, ni ellir gwrthod eich cais ar sail:

  • Yr amser bydd yn ei gymryd i wneud y gwaith ac unrhyw darfu ar eich cymdogion wrth wneud y gwaith
  • Eich hanes cynllunio - os cafodd caniatâd ei wrthod ar gyfer prosiect blaenorol, ni wnaiff hyn effeithio ar eich cais presennol
  • Barn cymydog os nad yw'n fater perthnasol i bolisi cynllunio - er enghraifft, os yw'n poeni am sŵn neu ddim yn hoff o'r edrychiad ac yn meddwl bod yr estyniad yn rhy fawr
  • Cytundebau preifat
  • Unrhyw beth personol fel eich statws, eich cyfeiriad neu eich oed

Rhagor o wybodaeth

Pa mor bell ymlaen llaw ddylwn i feddwl am gael caniatâd cynllunio?