Skip to main content
Beth yw'r 17 camgymeriad cyffredin ar gynlluniau adeiladu?

Beth yw'r 17 camgymeriad cyffredin ar gynlluniau adeiladu?

Project type

Dyma'r 17 camgymeriad cyffredin...

O ran manylion technegol, dyma rai o'r camgymeriadau cyffredin sy'n cael eu canfod ar gam archwilio'r cynllun:

  1. Defnyddio graddfeydd anghywir neu anghyson ar draws lluniadau. Mae hyn yn gwneud dimensiynau ysgrifenedig yn bwysig mewn mannau critigol fel agoriadau adeileddol.

  2. Diffyg gwybodaeth adeileddol fel maint ceibrau a distiau llawr, aelodau dur neu bren yn rhy fach, rhwymiadau ac ataliadau gwynt ar gyfer toeon a waliau, dim manylion am gyplau to, dim manyleb ar gyfer linteri dros agoriadau ffenestri a drysau.

  3. Manylion gwael am gysylltau neu gynheiliaid rhwng gwahanol gydrannau neu systemau. Mae'n rhaid rhoi manylion priodol am y rhain i wneud yn siŵr bod pethau fel atal lleithder, triniaethau acwstig, pilenni nwy ac inswleiddio thermol yn mynd i fod yn effeithiol. Er enghraifft, i atal pontydd oer a phroblemau posibl â malltod o gwmpas agoriadau ffenestri.

  4. Dim digon o amddiffyniad rhag tân – ar ffurf drysau tân rhwng tai a garejis, amddiffyn trawstiau dur rhag tân, amddiffyn trawsnewidiadau atig neu bresenoldeb defnyddiau hylosg yn agos at ffiniau.

  5. Diffyg manylion am awyru, neu awyru annigonol. Mae hyn yn cynnwys ffenestri agoradwy, awyru cefndir neu ddiferu, gwyntyllau echdynnu mewn ceginau, ystafelloedd ymolchi ac ystafelloedd amlbwrpas ac awyru gwagleoedd fel gwagle'r to neu wagle dan y llawr.

  6. Diffyg manylion am foeleri, gwresogi a llosgyddion tanwydd solid. Mae hyn yn cynnwys manylion am simneiau, ffliwiau, cyflenwad aer, maint aelwydydd ac atal a chanfod carbon monocsid.

  7. Manylion annigonol am risiau ac amddiffyn rhag syrthio. Mae hyn yn cynnwys manylion am ongl, codiad a'r grisiau eu hunain, rheiliau llaw, bylchau a dyluniad balwstradau.

  8. Diffyg gwybodaeth am wydr diogelwch mewn drysau, ffenestri ar lefel isel a ffenestri'n agos at ddrysau. Mae hyn yn cynnwys darparu gwydr laminedig neu wydr diogelwch sydd naill ai ddim yn torri neu sy'n torri'n ddiogel os yw ar lefel y llawr gwaelod.

  9. Diffyg gwybodaeth am effeithlonrwydd ac inswleiddio thermol ac arbed tanwydd a phŵer. Mae hyn yn cynnwys inswleiddio waliau, lloriau a'r to (ac atal anwedd), effeithlonrwydd ffenestri, drysau a ffenestri to. Dylai'r manylion gynnwys cynhyrchedd y boeler, systemau goleuo, gwresogi ac awyru, rheolyddion gwresogi gwagle a systemau aerdymheru.

  10. Dim digon o fanylion am ddraenio, er enghraifft ddim yn pennu maint gwastraff a thrapiau, graddiannau neu fynediad i rodenni. Dylid pennu draeniau dŵr glaw, suddfannau dŵr a chafnau a pheipiau hefyd.

  11. Diffyg manylion am sylfeini fel dyfnder, lled, trefniadau os ydynt yn croesi rhediadau draeniau, presenoldeb unrhyw goed a allai achosi i'r tir symud.

  12. Dim manylion am golofnau, cerrig padio na manylion uno lle bydd trawstiau dur yn cymryd lle waliau.

  13. Materion diogelwch tân fel larymau mwg, canfodyddion gwres, mannau cynllun agored heb fodd diogel o ddianc o'r lloriau uchaf.

  14. Materion atal lleithder fel cyrsiau gwrthleithder llorweddol a fertigol, pilenni gwrthleithder i'r llawr gwaelod, darparu blychau ceudod lle bydd estyniadau'n cysylltu â waliau presennol, seliau plwm o gwmpas simneiau, dyffrynnoedd to a balconïau.

  15. Dim manylion am amddiffyn rhag radon na nwyon daear.

  16. A yw dŵr poeth yn cael ei storio a'i ddosbarthu'n ddiogel?

  17. Dim manylion am waith trydanol os nad yw hyn yn cael ei ddylunio a'i osod gan drydanwr sy'n unigolyn cymwys.

D.S. Ni wnaiff yr archwiliad cynllun rheoliadau adeiladu sylwi ar bob camgymeriad fel lleoli cyfleusterau mewn mannau anymarferol neu leoedd sy'n rhy fach, yn anymarferol neu'n anhylaw. Ni fydd o reidrwydd yn sylwi ar elfennau sy'n anodd neu'n amhosibl eu hadeiladu.

Rhagor o wybodaeth

Beth yw archwilio cynllun?

Beth yw'r rheoliadau adeiladu?