Skip to main content
Beth yw tystysgrif datblygiad cyfreithlon?

Beth yw tystysgrif datblygiad cyfreithlon?

Project type

Dogfen gyfreithiol yw'r dystysgrif datblygiad cyfreithlon sy'n nodi nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith yr ydych wedi'i wneud ar eich tŷ yn y gorffennol, neu waith yr ydych yn bwriadu ei wneud.

Os ydych yn credu y gellir caniatáu eich prosiect adeiladu arfaethedig fel datblygiad a ganiateir, ond yr hoffech fod yn sicr am y peth, bydd tystysgrif datblygiad cyfreithlon yn rhoi tawelwch meddwl i chi.

Fel arall, os ydych eisoes wedi gwneud addasiadau i'ch cartref, wedi torri un o amodau caniatâd cynllunio neu wedi gwneud gwaith ar eich tir, ymhen amser efallai na fydd y cyngor yn gallu gwneud dim byd oherwydd y cyfyngiadau amser treigl a gyflwynwyd yn Neddf Cynllunio a Digolledu 1991.

Felly, gallai tystysgrif datblygiad cyfreithlon eich helpu i werthu eich cartref, codi'r arian i'w brynu neu eich argyhoeddi fel prynwr y gallwch wneud y gwaith ar ôl prynu'r eiddo neu'r tir.

Gwaith adeiladu yn y gorffennol

Ar gyfer gwaith datblygu sydd wedi'i wneud i'ch cartref yn y gorffennol, mae angen i chi brofi, ar ffurf pethau fel anfonebau a ffotograffau wedi'u dyddio:

  • Bod y gwaith adeiladu 'wedi'i gwblhau i raddau helaeth' dros bedair mlynedd cyn dyddiad y cais.
  • Eich bod wedi bod yn defnyddio eich cartref yn barhaus am gyfnod o bedair mlynedd o leiaf.

Gallai datganiadau gennych chi a gan drydydd partïon helpu hefyd.

Sut i ymgeisio

Sylwch fod rhaid i chi gyflwyno gwybodaeth ddigonol i helpu eich awdurdod i wneud penderfyniad – mae hynny'n golygu cynlluniau clir. Rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor proffesiynol cyn cyflwyno.

Gallwch wneud cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon drwy wefan y Porth Cynllunio. 

Rhagor o wybodaeth

Sut ydw i'n cael dyluniad ar gyfer fy mhrosiect gwella cartref?

Canllawiau'r llywodraeth am dystysgrifau datblygiad cyfreithlon