Beth yw'r materion sy'n ymwneud â diogelwch ar gyfer ffenestr neu ddrws newydd?
Project type
Mae'n rhaid i ffenestri mewn cartrefi newydd, addasiadau ac estyniadau fodloni gofynion Rhan Q y rheoliadau adeiladu (sy'n ymwneud â diogelwch).
Mae hyn yn helpu i sicrhau bod dyluniad ac adeiladwaith y ffenestr neu'r drws yn gadarn, bod y gwydr yn ddiogel a bod y cloeon yn bodloni'r safonau perthnasol i atal mynediad heb awdurdod drwy ymosodiad ffisegol gan leidr crwydrol neu fanteisgar.
Os ydych yn gosod ffenestri newydd, gallai bodloni'r gofynion hyn roi tawelwch meddwl i chi.
Mae'r rheoliadau'n berthnasol i ffenestr neu ddrws, ag unrhyw ran o fewn 2m yn fertigol o arwyneb gwastad hygyrch fel y llawr gwaelod neu islawr, neu falconi mynediad, neu ffenestr o fewn 2m yn fertigol o do fflat neu do ar oleddf (ag ongl o dan 30°) sydd o fewn 3.5m i lefel y ddaear.
Gall gwneuthurwyr ffenestri a drysau gael ardystiad trydydd parti ar eu cynnyrch. Fel arall, gallant adeiladu eu setiau drysau a'u ffenestri yn unol â manyleb a bennwyd ymlaen llaw o'r enw PAS24:2016 neu safon gywerth sy'n rhagori ar ofynion Dogfen Gymeradwy Q.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch yn https://www.securedbydesign.com/ lle gallwch chwilio yn ôl cynnyrch neu wneuthurwr.