A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer pwmp gwres?
Project type
Un o'r cyfranwyr mwyaf at allyriadau CO2 mewn eiddo yw'r system wresogi, felly efallai yr hoffech ddod o hyd i ffordd o ddefnyddio dull mwy cynaliadwy ac effeithlon o ran egni i wresogi eich cartref. Mae pwmp gwres yn un ffordd o wneud hyn – mae'n darparu gwres drwy gymryd gwres ar dymheredd isel o'r amgylchedd a'i drawsnewid i dymheredd uwch.
Mae nifer o fathau o bympiau gwres ar gael i ddewis o'u plith:
- mae pwmp gwres ffynhonnell aer yn amsugno gwres o'r aer y tu allan
- mae pwmp gwres ffynhonnell daear neu ddŵr yn echdynnu gwres o'r ddaear
- mae pwmp gwres â chymorth solar yn amsugno gwres o'r atmosffer
- mae pwmp gwres gwacáu'n defnyddio'r gwres o aer gwastraff sy'n gadael adeilad
Mae'n rhaid i'r gwaith adeiladu a'r pwmp gwres ei hun gydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu, ac yn ddelfrydol dylai'r unigolyn sy'n ei osod berthyn naill ai i gynllun unigolion cymwys perthnasol neu i gynllun ardystio microgynhyrchu. (Wrth gwrs, dylech chwilio am adolygiadau cyn ymrwymo i unrhyw gwmni penodol i wneud y gwaith.)
Rhagor o wybodaeth
A oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer pwmp gwres?
Dogfen Gymeradwy L Lloegr – Arbed tanwydd a phŵer