A fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer pwmp gwres?
Project type
Un o'r cyfranwyr mwyaf at allyriadau CO2 mewn eiddo yw'r system wresogi, felly efallai yr hoffech ddod o hyd i ffordd o ddefnyddio dull mwy cynaliadwy ac effeithlon o ran egni i wresogi eich cartref.
Mae gosod pwmp gwres yn lle eich boeler yn un ffordd o wneud hyn – mae'n darparu gwres drwy gymryd gwres ar dymheredd isel o'r amgylchedd a'i drawsnewid i dymheredd uwch.
Caniatâd cynllunio a phympiau gwres
Mae nifer o bympiau gwres ar gael i ddewis o'u plith:
Pympiau gwres ffynhonnell aer - amsugno gwres o'r aer y tu allan
Mewn sefyllfa ddomestig, gall y rhain fod yn ddatblygiad a ganiateir, sy'n golygu nad oes angen caniatâd cynllunio, cyn belled â bod amodau llym yn cael eu bodloni. Gallwch drafod hyn â thîm cynllunio eich cyngor.
Pympiau gwres ffynhonnell daear neu ddŵr - echdynnu gwres o'r ddaear
Mae'n bosibl iawn i'r rhain fod yn ddatblygiad a ganiateir hefyd, oni bai eich bod yn byw mewn adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth. Eto, holwch eich awdurdod cynllunio lleol.
Pwmp gwres â chymorth solar (amsugno gwres o'r atmosffer) a phwmp gwres gwacáu (defnyddio'r gwres o aer gwastraff sy'n gadael adeilad)
Siaradwch â'ch awdurdod cynllunio lleol i gael cyngor.
Rhagor o wybodaeth
A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer pwmp gwres?