Skip to main content
A fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer system gwres a phŵer cyfunedig?

A fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer system gwres a phŵer cyfunedig?

Project type

Bydd system gwres a phŵer cyfunedig (neu system micro-CHP) yn cynhyrchu gwres a thrydan o'r un ffynhonnell, ac mae'n ddewis carbon-isel yn lle technolegau gwres a phŵer traddodiadol er mai nwy neu olew sy'n eu pweru ar hyn o bryd. 

Fel rheol, ni fydd angen caniatâd cynllunio i osod y system, ond os oes angen ychwanegu ffliw allanol mae'n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio gan ddibynnu ar ble caiff y ffliw ei gosod neu os ydych mewn adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth.

Siaradwch â'ch awdurdod cynllunio lleol i gael cyngor.

Rhagor o wybodaeth

Dogfen Gymeradwy L Lloegr: Arbed tanwydd a phŵer

Dogfen Gymeradwy L Cymru: Arbed tanwydd a phŵer

A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer system gwres a phŵer cyfunedig?