A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer system gwres a phŵer cyfunedig?
Project type
Bydd system gwres a phŵer cyfunedig (neu system micro-CHP) yn cynhyrchu gwres a thrydan o'r un ffynhonnell, ac mae'n ddewis carbon-isel yn lle technolegau gwres a phŵer traddodiadol er mai nwy neu olew sy'n eu pweru ar hyn o bryd. Gallwch ddefnyddio technolegau fel hyn i helpu i fodloni gofynion y rheoliadau adeiladu.
Bydd angen i'r gosodiad a'r offer gydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu, yn ogystal ag unrhyw waith adeiladu cysylltiedig (er enghraifft, plymwaith), felly siaradwch â thîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol (chwiliwch am eu manylion cyswllt uniongyrchol gan ddefnyddio'r blwch chwilio cod post uchod).
Bydd gosodwr sydd wedi'i gofrestru â chynllun unigolion cymwys fel APHC, BESCA, Certsure, HETAS, NAPIT, OFTEC neu Stroma hefyd yn gallu cynnig cyngor. (Defnyddiwch y botwm glas Dod o hyd i unigolyn cymwys uchod i ddod o hyd i un yn eich ardal.)
Rhagor o wybodaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth dechnegol yn Ffynonellau Egni Carbon Isel neu Ddi-Garbon: Canllaw Strategol – mae hwn yn cefnogi cynnwys ffynonellau egni carbon isel neu ddi-garbon y cyfeirir atynt yn Rhan L y Rheoliadau Adeiladu a Dogfennau Cymeradwy L1A, L1B, L2A ac L2B. Mae Pennod 4 yn sôn am micro-CHP.
Dogfen Gymeradwy L Lloegr: Arbed tanwydd a phŵer
Dogfen Gymeradwy L Cymru: Arbed tanwydd a phŵer
A fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer system micro-CHP (gwres a phŵer cyfunedig)?