Skip to main content
Beth yw'r materion sy'n ymwneud â lloriau ar gyfer fy mhroject cegin?

Beth yw'r materion sy'n ymwneud â lloriau ar gyfer fy mhroject cegin?

Project type

Beth yw'r materion sy'n ymwneud â lloriau ar gyfer fy mhroject cegin?

Ar wahân i'r materion amlwg sy'n ymwneud â thynnu wal adeileddol, os ydych chi'n newid y ffordd mae ystafell yn cael ei defnyddio ac yn gosod offer trwm, cypyrddau ac wynebau gweithio gallai hyn gynyddu'r llwyth ar adeiledd y llawr a golygu bod angen cryfhau eich llawr.

Felly, mae angen i chi ystyried pa fath o adeiledd llawr sydd yn eich cegin.

Os yw'n llawr concrit, mae'n bosibl na fydd cynyddu'r llwyth yn broblem, ond dylech chi ystyried gwneud mwy i atal lleithder tra bod yr ystafell yn wag os yw lleithder codi yn broblem.

Mae lloriau pren crog yn aml yn sbonciog a dylech chi sicrhau bod rhywun yn archwilio cyflwr unrhyw drawstiau neu estyll pren tra bod yr ystafell yn wag.

Dylech chi drin unrhyw bryf pren, newid unrhyw bren sy'n llaith neu wedi'i ddifrodi ac ystyried cyflwyno nogwaith pren rhwng y trawstiau i helpu i wneud yr adeiledd yn fwy anhyblyg. Gallai hyn helpu i atal teils llawr ceramig rhag cracio oherwydd symudiadau a dirgryniadau peiriannau golchi.

Materion eraill yn ymwneud â lloriau ceginau

Os yw eich cegin yn oer ac yn dioddef oherwydd anwedd, efallai yr hoffech chi ystyried inswleiddio'r lloriau.

Cofiwch fod angen gwneud cais rheoliadau adeiladu cyn gwneud unrhyw waith i adnewyddu'r llawr, sy'n cael ei ystyried yn elfen thermol (waliau, lloriau neu doeon sy'n gwahanu rhannau o adeilad sydd wedi'u gwresogi), fel adnewyddu haen uchaf llawr concrit neu ailosod estyll neu drawstiau ar ôl inswleiddio.

Hefyd, bydd angen inswleiddio'r gwaith yn unol â'r safonau presennol a chyn gynted â'i fod wedi'i gwblhau bydd eich syrfëwr rheoli adeiladu'n archwilio'r gwaith.

Cewch chi dystysgrif cwblhau, a bydd disgwyl i chi gynhyrchu hon os ydych chi'n gwerthu eich cartref.

Rhagor o wybodaeth

Cwestiynau cyffredin am geisiadau Rheoliadau Adeiladu