Rydw i'n gosod neu'n symud boeler yn fy nghegin - beth mae angen i mi gadw llygad amdano?
Project type
Mae offer gwresogi sydd wedi'u gosod neu eu cynnal a'u cadw'n wael yn gallu achosi risg o wenwyn carbon monocsid (CO) i chi a'ch teulu. Mae Rhan J y rheoliadau adeiladu (offer hylosgi) yn berthnasol os ydych chi'n gosod boeler newydd, ond hefyd os ydych chi'n symud y boeler i leoliad arall, neu hyd yn oed os ydych chi'n gadael y boeler yn ei le ond yn estyn y ffliw.
Hefyd, os ydych chi'n cuddio boeler mewn cwpwrdd, gwnewch yn siŵr fod yna awyru digonol a ffordd o fynd ato i'w wasanaethu.
Mae angen gosodwr cofrestredig Gas Safe i osod boeler nwy a gosodwr cymwysedig neu unigolyn cymwys i osod boeler olew neu danwydd solid.
Os yw unigolyn cymwys yn gwneud gwaith hysbysadwy, bydd angen i'r unigolyn ei hunanardystio.
Dylech chi gael tystysgrif pan fydd y gwaith wedi'i orffen - bydd angen hon arnoch os ydych yn gwerthu eich tŷ yn y dyfodol.