A fydd fy ffenestri a fy nrysau newydd yn y gegin yn broblem?
Project type
Dylai unrhyw ffenestri a drysau allanol sy'n cael eu gosod fel rhan o'r gwaith yn eich cegin helpu i leihau'r gwres sy'n cael ei golli o'ch cartref, felly bydd angen iddynt gydymffurfio â Rhan L (Arbed Tanwydd a Phŵer) y rheoliadau adeiladu ym mhob achos.
Hefyd, bydd angen i'r gwaith gydymffurfio â Rhan A (Adeiledd) os yw'r agoriad yn cael ei wneud yn lletach, bydd angen gwydr diogelwch os yw'r gwydr ar lefel isel neu mewn drws neu'n agos at ddrws, ac efallai y bydd Rhan B (Diogelwch Tân) yn berthnasol os yw'r gwydr o fewn 1m i'r ffin.