Skip to main content
A fydd angen awyru ychwanegol yn fy nghegin?

A fydd angen awyru ychwanegol yn fy nghegin?

Project type

Wrth ychwanegu neu dynnu wal fewnol, mae angen bod yn ofalus i beidio â gwaethygu'r awyru. Dylid darparu gwyntyll echdynnu fecanyddol yn unrhyw gegin neu ystafell amlbwrpas newydd.

Bydd yr awyru sydd ei angen yn dibynnu ar y math o ystafell. Yn unol â Rhan F y rheoliadau adeiladu, os mai dim ond gwyntyll ailgylchredol oedd yn y gegin yn flaenorol, cewch chi gadw hon neu osod un newydd sydd ddim gwaeth.

Fodd bynnag, i leihau anwedd, mae'n well defnyddio echdynnydd sy'n anfon aer allan o'r adeilad.

Mewn cegin, bydd angen iddo echdynnu 30 litr yr eiliad os yw uwchben yr hob a 60 litr os yw yn unrhyw le arall.

Mewn ystafell amlbwrpas, 30 litr yr eiliad yw'r gofyniad.

Rhagor o wybodaeth

Beth yw'r gofynion trydanol ar gyfer fy mhroject cegin?

Cwestiynau cyffredin am geisiadau Rheoliadau Adeiladu