Os ydych chi eisoes wedi ymchwilio i'r angen am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio, mae angen ystyried rhai materion eraill cyn dechrau gwaith ar eich ystafell ymolchi.
- Mae'n bwysig iawn bod ystafell ymolchi'n cael ei gosod yn gywir am resymau hylendid a diogelwch, ac i atal gollyngiadau dŵr dieisiau, felly dilynwch ein hawgrymiadau ni ynglŷn â dod o hyd i grefftwr.
- Ydy eich gosodiadau newydd yr un maint â'r rhai gwreiddiol? Os ydyn nhw, y gobaith yw na fydd gormod o aflonyddwch.
- Efallai yr hoffech chi ystyried gwneud eich ystafell ymolchi'n gynhesach gan leihau anwedd a llwydni drwy uwchraddio'r awyru neu osod system awyru echdynnu fecanyddol, gan osod ffenestr newydd sy'n cynnwys awyrell ddiferu, gosod leinin sych o ddefnydd inswleiddio ar y waliau a gosod rheilen dywelion wedi'i gwresogi ar yr un pryd. (Efallai y bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer y gwaith hwn.)
- Os yw'r ystafell ymolchi'n un newydd, bydd angen i chi gynllunio sut rydych chi'n mynd i gael cyflenwadau dŵr poeth ac oer, ac efallai y bydd angen peipiau gwres canolog newydd ar gyfer gwresogyddion a rheiliau tywelion. Mae angen pibellau gwastraff â'r manylebau cywir o ran maint gwastraff a thrapiau, ac mae angen gosod y rhain yn gywir ar y graddiant cywir â llygaid i rodenni rhag ofn y bydd rhwystrau'n digwydd, a'u cysylltu â'r system bresennol, gan dybio bod lle iddynt a bod y system mewn cyflwr da.
- Os nad yw eich peipen garthion ac awyru mewn lleoliad cyfleus, neu os oes angen pwmpio gwastraff i leoliad arall, bydd angen mwydwr.
- A fydd y llawr yn gallu cynnal pwysau eich offer ystafell ymolchi newydd neu wal gydrannol newydd? Cofiwch fod baddonau haearn bwrw sy'n llawn dŵr yn rhoi gwasgedd enfawr ar y traed bach – mae'n debygol y bydd angen i chi uwchraddio distiau'r llawr.
- A fydd gennych ddigon o wasgedd dŵr i'ch cawod? Efallai y gallwch gynyddu hwn drwy osod pwmp.
- Mae'n bosibl y bydd angen estyn eich system drydanol, ond cofiwch na chewch chi roi socedi mewn ystafell ymolchi oni bai ei bod hi'n fawr iawn. Bydd angen i'r switsh golau fod y tu allan i'r drws neu gael ei weithredu drwy dynnu cortyn.
Siaradwch â'ch tîm rheoli adeiladu lleol (gallwch chwilio am y manylion cyswllt uchod) os oes gennych amheuaeth am unrhyw beth uchod.
Rhagor o wybodaeth
A oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer fy ystafell ymolchi newydd?
A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer fy ystafell ymolchi newydd?