Skip to main content
Pa reoliadau adeiladu sy'n berthnasol i ddraeniau yn yr ystafell ymolchi

Pa reoliadau adeiladu sy'n berthnasol i ddraeniau yn yr ystafell ymolchi

Project type

Rhan H y rheoliadau adeiladu sy'n rheoli draeniau a pheipiau. Mae draeniau sydd ddim yn gweithio'n iawn yn gallu achosi i wastraff dŵr a charthffrydiau fynd i mewn i'r rhannau o'ch cartref lle rydych chi'n byw, gan achosi goblygiadau difrifol i iechyd yn ogystal â llifogydd.

Gall hefyd arwain at lifogydd a llygredd y tu allan i'ch cartref.

Bydd angen i beipiau a thrapiau gwastraff fod yn gywir o ran maint a manyleb i sicrhau na chaiff unrhyw drapiau gwastraff (seliau dŵr) eu tynnu na'u seiffno drwy ddefnyddio dyfeisiau sy'n gadael arogleuon draeniau budr o'r garthffos i mewn i'r ystafell.

Pryd mae angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer y draeniau mewn ystafell ymolchi?

Os ydych chi'n newid lleoliad offer yr ystafell ymolchi fwy na rhai centimetrau, yn gwneud newidiadau i gysylltiadau neu'n gosod peipiau newydd, mae'n debygol y bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.

Bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu bob amser ar gyfer ystafell ymolchi, en-suite neu dŷ bach cwbl newydd.

Beth mae'r rheoliadau adeiladu'n ymwneud ag ef o ran draeniau ystafelloedd ymolchi?

Mae'n rhaid gosod y draeniau a'r peipiau gwaredu gwastraff o'ch ystafell ymolchi yn gywir i gludo gwastraff dŵr o'ch toiled, eich cawod, eich sinc a'ch baddon (a'ch bidet os oes gennych chi un) i garthffos, gwaith trin, tanc septig neu garthbwll cyhoeddus neu breifat.

Mae'n rhaid i unrhyw beipen garthion ac awyru newydd (y beipen fertigol sy'n cysylltu'r ffitiadau ystafell ymolchi newydd â'r draeniau) fod wedi'i hawyru'n ddigonol o leiaf 900mm uwchben unrhyw agoriadau o fewn 3m oni bai eich bod chi'n gosod falf derbyn aer ar stac bwt fewnol. .

Bydd gosod y rhain yn gywir yn golygu na fydd aer budr (drwg) o'r system ddraenio'n gallu dod i mewn i'ch cartref. Hefyd, mae angen gallu mynd at y peipiau i glirio rhwystrau, drwy ddarparu llygaid i rodenni ar bob newid cyfeiriad yn ogystal â thrapiau hygyrch y gellir eu tynnu allan (bydd cuddio peipiau y tu ôl i deils yn golygu y bydd angen difrodi eich teils i gyrraedd y beipen).

Mae'n rhaid i'r peipiau fod yn aerglos ac ar y graddiant neu'r disgyniad cywir er mwyn i ddŵr gwastraff allu draenio'n iawn, a dylai'r defnyddiau a'r crefftwaith fod o safon foddhaol. Mae angen i ddiamedr y peipiau fod yn gywir i'ch llif dŵr hefyd, a dylai popeth ffitio at ei gilydd yn iawn.

Os oes gan eich cartref ystafell wlyb, bydd angen i raddiant/disgyniad y llawr fod yn ddigon serth i'r dŵr ddraenio i ffwrdd, a bydd angen i'r peipiau weithio'n iawn i atal dŵr rhag cronni, oherwydd gallai hyn achosi anafiadau difrifol os bydd pobl yn syrthio ar loriau llithrig.

Mae'r rhesymau hyn i gyd yn golygu y dylech chi ystyried cyflogi plymwr cymwysedig i wneud y gwaith hwn ar eich rhan. 

Os ydych chi'n defnyddio unigolyn cymwys bydd yn gallu hunanardystio'r gwaith sydd o fewn cwmpas y rheoliadau adeiladu. Fel arall, bydd angen i chi wneud cais rheoliadau adeiladu.

Rhagor o wybodaeth

Mae Dogfen Gymeradwy H yn cynnig arweiniad ynglŷn â sut i gydymffurfio â Rhan H y rheoliadau adeiladu.

Cwestiynau cyffredin am geisiadau rheoliadau adeiladu