Skip to main content
Sut gallaf wella effeithlonrwydd egni fy ystafell wydr?

Sut gallaf wella effeithlonrwydd egni fy ystafell wydr?

Project type

Os yw eich ystafell wydr yn bodloni'r gofynion i'w dosbarthu'n adeiledd sy'n eithriedig rhag y rheoliadau adeiladu, nid oes angen i chi fodloni unrhyw safonau thermol penodol. (Gweler A oes angen cais rheoliadau adeiladu ar gyfer fy ystafell wydr? i ganfod a yw hynny'n wir.)

Os nad yw wedi'i dosbarthu'n adeiledd eithriedig (fel rheol am eich bod yn bwriadu tynnu'r drysau rhwng yr ystafell wydr a'r tŷ neu estyn eich system gwres canolog i'r ystafell wydr) bydd angen i chi fodloni'r safonau a nodir yn Nogfen Gymeradwy L ar gyfer estyniadau (L1B ar gyfer aneddiadau sy'n bodoli). Gall hyn fod yn broblem os oes gennych adeiledd â llawer o wydr ynddo.

Bydd angen i chi brofi effeithlonrwydd thermol eich ffrâm, eich llawr, eich waliau a'ch gwydrau ac mae'n bosibl y bydd rhaid i chi gyflenwi cyfrifiadau colled gwres neu hyd yn oed uwchraddio eich cartref presennol yn thermol er mwyn gwneud iawn am faint o wydr sydd yn eich ystafell wydr.

Os oes gan eich ystafell wydr do solet wedi'i inswleiddio, ni chaiff ei dosbarthu'n ystafell wydr ac ni fydd yn adeiledd eithriedig.

Rhagor o wybodaeth

Dogfen Gymeradwy L1B Lloegr – Arbed tanwydd a phŵer mewn aneddiadau sy'n bodoli

Dogfen Gymeradwy L1B Cymru – Arbed tanwydd a phŵer mewn aneddiadau sy'n bodoli