A fydd angen cwrs gwrthleithder ar fy ystafell wydr newydd?
Project type
Mae camgymeriadau'n digwydd yn aml gyda'r trefniadau gwrthleithder ar gyfer yr ystafell wydr yn lle mae'n cysylltu â'ch tŷ neu'ch rhandy presennol.
Mae angen cwrs gwrthleithder (damp proof course: DPC) i wneud yn siŵr nad yw lleithder yn gweithio ei ffordd i fyny drwy'r sylfeini ac yn effeithio ar eich ystafell wydr.
Mae angen i'r DPC llorweddol fod yn barhaus ag adeiladwaith prif wal y cartref, heb ddim bylchau lle gall lleithder fynd drwodd.
Ar bentanau fertigol, llorweddol ac ar oleddf (mannau lle mae'r ystafell wydr yn cyffwrdd â'ch tŷ), mae angen manylion i helpu i gadw lleithder allan: blychau ceudod (DPC sy'n croesi'r ceudod), cyrsiau gwrthleithder, pilenni gwrthleithder a seliau plwm (defnydd tenau gwrth-ddŵr sy'n gwarchod uniadau rhag y tywydd) i gyd yn gysylltiedig.
Bydd hyn yn golygu torri i mewn i'r adeiledd er mwyn i elfennau allanol a mewnol yr adeiladwaith fod wedi'u gwahanu'n ffisegol.