Beth yw'r materion sy'n ymwneud â goleuadau cilannog?
Dylai fod "cyfraddiad tân" ar oleuadau cilannog a lled-gilannog er mwyn sicrhau nad yw'r twll sy'n cael ei dorri i wneud lle i'r golau'n achosi perygl tân. Mae hyn oherwydd bod nenfwd yn amddiffyn rhag tân, a bod creu tyllau ynddo'n gwanhau hyn.
Mae goleuadau â chyfraddiad tân yn helpu i arafu cyfradd lledaenu tân drwy selio'r twll ei hun, fel rheol drwy ychwanegu lwfer tân sy'n eistedd dros yr uned oleuo yng ngwagle'r nenfwd.
Mae goleuadau cilannog â chyfraddiad tân yn cael cyfraddiad 30, 60 neu 90 munud, ac mae gan bob cyfraddiad ei bwrpas a'i le ei hun.
Fel rheol, caiff goleuadau â chyfnod byrrach ar gyfer amddiffyn rhag tân, fel 30 munud, eu defnyddio ar safleoedd domestig neu breswyl, ac mae'n bosibl y bydd angen goleuadau cilannog â chyfraddiad tân 60 neu 90 munud ar safleoedd masnachol neu ddiwydiannol.
Ystyriaethau eraill ynglŷn â goleuadau cilannog
- Mannau oer o gwmpas y goleuadau
- Aer yn gollwng o gwmpas y goleuadau
- Effeithlonrwydd egni'r goleuadau
- Materion yn ymwneud ag anwedd
- Isafswm dyfnder gwagle'r nenfwd
- Uchafswm nifer y goleuadau i bob m2
Rhagor o wybodaeth
Canllaw i osod goleuadau to yn ddiogel mewn anheddau (ar wefan yr LABC)