Skip to main content
A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer tanategion?

A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer tanategion?

Project type

Mae angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer tanategion gan fod tanategion yn addasiad adeileddol, ac os nad yw'n cael ei wneud yn gywir gan gwmni ag enw da, gallai achosi problemau adeileddol difrifol, neu hyd yn oed ddymchwel eich cartref.

Weithiau bydd aseswr colledion yn argymell tanategion os yw'r tŷ wedi dioddef ymsuddiant.

Beth mae tanategion yn ei olygu?

Mae'n ffordd o wneud eich cartref yn fwy sefydlog os yw'r sylfeini wedi symud (oherwydd ymsuddiant neu newid i amodau'r pridd o dan eich cartref, er enghraifft), neu'n ffordd o ategu'r waliau uwchben os ydych yn ychwanegu llawr arall.

Maent hefyd yn cael eu defnyddio i adeiladu selerau ac isloriau o dan adeiladau sy'n bodoli.

Bydd peiriannydd adeileddol yn gallu dweud wrthych a oes angen tanategion a sut dylid gwneud y gwaith. Bydd rhaid i'w argymhellion ystyried draeniau a charthffosydd cyfagos. Dylid ceisio cyngor arbenigol ar gyfer y math hwn o waith bob amser.

Y dull tanategu mwyaf cyffredin yw cloddio darnau o'r ddaear o dan y sylfeini presennol a chwistrellu concrit, wedi'i gyfnerthu fel rheol, i mewn i bob darn. Mae hyn yn gwneud tanategion màs concrit. Bydd syrfëwr rheoli adeiladu'n archwilio pob darn cyn ei lenwi â choncrit. Caiff pyst bach eu defnyddio hefyd os oes digon o le i'w rhoi i mewn (polion concrit â diamedr cul).

Efallai y bydd dulliau eraill yn fwy addas i'ch sefyllfa; bydd eich peiriannydd adeileddol yn gallu eich cynghori am hyn.

D.S. Os yw'r gwaith yn mynd i gael ei wneud yn gyfagos neu'n agos i adeilad arall, bydd rhaid i chi gydymffurfio â Deddf Waliau Cydrannol 1996 hefyd.

Rhagor o wybodaeth

Dogfen Gymeradwy Rhan A Lloegr: Adeiledd

Dogfen Gymeradwy Rhan A Cymru: Adeiledd