Skip to main content
A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i wneud addasiadau adeileddol

A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i wneud addasiadau adeileddol

Beth yw addasiadau adeileddol?

Yma, cewch wybod a fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer addasiadau adeileddol i do, wal neu lawr.

Mae unrhyw waith sy'n newid amlen allanol adeilad fel y to, y waliau neu'r llawr, neu waliau mewnol [cyswllt] neu loriau sy'n cynnal pwysau yn addasiad adeileddol.

A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i wneud fy addasiadau adeileddol?

Mae angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i wneud unrhyw addasiad adeileddol.

Addasiadau adeileddol mewnol yw newidiadau i unrhyw ran o'r adeilad sy'n cynnal rhywbeth arall uwch ei phen.

Gall addasiadau adeileddol gynnwys tynnu brestiau simneiau tynnu brestiau simneiau neu daro waliau cynnal pwysau i lawr.

Er enghraifft, bydd lloriau a waliau uchaf tŷ, ac weithiau y to, yn cael eu cynnal yn rhannol gan waliau mewnol y llawr gwaelod. Gallai tynnu'r waliau hyn heb ddarparu trawstiau addas i gynnal yr adeiledd drostynt arwain at draul adeileddol, difrod neu hyd yn oed ddymchwel yr adeilad.

Os caiff brest simnai llawr gwaelod ei thynnu heb ddarparu trawstiau addas i gludo pwysau'r stac a brest y simnai ar y llawr cyntaf, gallai hyn olygu bod y stac a'r frest wedi'u llwytho'n ecsentrig a gallai hyn dynnu'r wal drosodd a dymchwel y to a'r lloriau.

Mae gwneud agoriadau newydd mewn waliau allanol ar gyfer ffenestri neu ddrysau ffenestri neu ddrysau, neu ledu agoriadau sy'n bodoli, yn cael eu hystyried yn addasiadau adeileddol.

Mae tanategu eich sylfeini neu gloddio sylfeini newydd yn addasiad adeileddol, felly bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.