Pam mae angen i syrfewyr rheoli adeiladu edrych ar ddistiau'r llawr a'r nenfwd?
Project type
Mae dist yn aelod adeileddol (yn debyg i drawst), sy'n pontio pellteroedd byrrach nag y byddai trawst traddodiadol. Mewn sefyllfaoedd domestig, fel rheol byddant wedi'u gwneud o bren.
Mae prennau'n dod mewn gwahanol feintiau a bydd angen i chi ddewis y maint cywir i weddu i rychwant neu hyd eich llawr neu nenfwd, gan ystyried pwysau gorchudd y llawr, llwyth y dodrefn, y preswylwyr ac unrhyw lwyth gan waliau neu barwydydd mewnol.
Bydd eich dylunydd neu eich contractwr yn dewis y maint pren cywir drwy edrych ar dablau rhychwant neu drwy ei gyfrifo.
Os yw'r rhychwant yn rhy fawr i'r distiau (hynny yw, distiau ddim yn ddigon mawr i alluogi'r pren i groesi'r lle dan sylw) bydd y distiau'n gwyro neu'n plygu a bydd y llawr yn sbonciog.
Mewn achosion difrifol, gallai'r llawr neu'r nenfwd fethu hyd yn oed pe bai gormod o lwyth arnynt, oherwydd dodrefn neu faddon llawn, efallai.
Rhagor o wybodaeth
Dogfen Gymeradwy A Lloegr – Adeiledd
Dogfen Gymeradwy A Cymru – Adeiledd