A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar fy mhorth?
Project type
Efallai yr hoffech ychwanegu porth i roi cysgod neu fwy o le wrth fynedfa eich cartref.
Cyn belled â bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni, ni fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu:
- Mae'r porth ar lefel y ddaear
- Mae arwynebedd y llawr yn llai na 30 metr sgwâr
- Mae drws ffrynt presennol y tŷ yn aros yn ei le
- Ni fydd yn andwyo mynediad i bobl â phroblemau symudedd
Fodd bynnag, os yw eich porth yn fwy cymhleth, ac yn cynnwys ffenestri ychwanegol a/neu osodiadau trydanol sefydlog, bydd angen i'r rhain gydymffurfio â rheoliadau adeiladu.