Sut gall gorchymyn cadwraeth coed effeithio ar fy mhrosiect?
Project type
Awdurdodau cynllunio lleol sy'n gyfrifol am gyflwyno gorchmynion cadwraeth coed, ac maent yn gwneud hyn er mwyn gwarchod coed sy'n "amwynder" (rhywbeth dymunol neu ddefnyddiol) yn yr ardal lle'r ydych yn byw.
Gallant ymwneud â choed o unrhyw fath neu oed, ac nid ydynt yn berthnasol i berthi, llwyni na gwrychoedd. Maent yn gallu ymwneud â grwpiau o goed a choetiroedd, yn ogystal â choeden unigol.
Beth mae gorchymyn cadwraeth coed yn ei olygu yn ymarferol?
Mae'r gorchymyn yn golygu na chewch
- dorri
- lleihau
- tocio
- teneuo
- brigdorri
- diwreiddio
- difrodi yn fwriadol
- dinistrio yn fwriadol...
...coeden sydd wedi'i gwarchod gan y gorchymyn.
Mae hefyd yn golygu na chewch achosi na chaniatáu i bobl eraill wneud unrhyw un o'r pethau hyn. Gallech gael eich dal yn atebol a gorfod mynd i'r llys ac wynebu dirwy fawr iawn.
Ond mae gen i ganiatâd cynllunio eisoes...
Bydd caniatâd cynllunio'n sôn am unrhyw orchymyn cadwraeth coed – edrychwch i weld a yw'r caniatâd yn cynnwys unrhyw amodau sy'n cyfeirio at goed. Er enghraifft, efallai y bydd disgwyl i chi blannu coed newydd yn lle unrhyw goed yr ydych yn eu torri, neu y bydd rhaid i chi warchod unrhyw goed sy'n weddill.
Gwneud gwaith ar goeden sy'n destun gorchymyn cadwraeth coed
Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith ar goeden sydd wedi'i gwarchod, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen gais i'ch awdurdod cynllunio lleol ac os ydynt yn teimlo bod rheswm digon da i wneud y gwaith, mae'n bosibl y cewch ganiatâd.
Coed mewn ardaloedd cadwraeth
Hyd yn oed os nad oes gorchymyn cadwraeth coed unigol yn gwarchod y goeden, os yw mewn ardal gadwraeth bydd rhaid i chi hysbysu'r awdurdod cynllunio lleol am unrhyw waith yr ydych yn cynnig ei wneud arni o leiaf chwe wythnos cyn dechrau'r gwaith.
'Hysbysiad adran 211' yw hwn ac mae'n rhoi amser i'r awdurdod cynllunio lleol i ystyried cyflwyno gorchymyn cadwraeth coed os ydynt o'r farn bod angen gwarchod y goeden.
Dirymu gorchymyn cadwraeth coed
Cewch ofyn am i orchymyn cadwraeth coed gael ei ddileu, ond bydd rhaid cyflwyno cais cynllunio i wneud hyn ac mae'n bosibl iawn na fyddwch yn llwyddiannus.
Felly, er nad yw'r rheoliadau adeiladu'n berthnasol i goed eu hunain (ar wahân i'w heffaith ar amodau'r pridd [cyswllt]), os oes gorchymyn cadwraeth coed yn berthnasol iddynt gallant gael effaith enfawr ar yr hyn y gallwch, neu'r hyn na allwch, ei adeiladu.