Skip to main content
Canllaw i doeon gwellt ar gyfer estyniadau tŷ - Model Dorset

Canllaw i doeon gwellt ar gyfer estyniadau tŷ - Model Dorset

Project type

Os oes to gwellt ar eich eiddo, mae angen i chi ddefnyddio töwr arbenigol ar gyfer to eich estyniad a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi am ddod o hyd i ddylunydd sy'n deall y dull toi hwn.

Mae 'Model Dorset' yn ganllaw defnyddiol iawn sy'n rhoi manylion y gofynion ar gyfer estyn neu adeiladu adeilad to gwellt sydd wedi'i leoli lai na 12m oddi wrth y ffin. Mae'n rhaid ystyried pob cynnig ar ei rinweddau, ac argymhellir ymgynghori'n gynnar â thîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol.

Mae'n rhaid cael rhwystr tân 30 munud o leiaf uwchben y ceibrau (cyfanrwydd ac inswleiddio) a dylai'r rhwystr hwn fod yn wrth-ddŵr hefyd. Argymhellir estyll 50 x 25 ar fwrdd microfandyllog i adael i'r gwellt anadlu. (Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Dorset yn argymell rhwystr 60 munud o dan y gwellt i amddiffyn yr eiddo.) Chewch chi ddim defnyddio defnydd hyblyg na sbwng ceudod fel rhwystr i wrthsefyll tân.

Dylai unrhyw simnai, gan gynnwys y pot, orffen o leiaf 1.8m uwchben uchder y grib. Oherwydd y risg o anwedd wrth i nwyon poeth oeri, dylid cyfyngu potiau'r simnai i uchafswm uchder o 600mm.

Bydd angen system larymau mwg gydgysylltiedig wedi'i phweru gan brif gyflenwad domestig a batris, gan osod un larwm mwg yng ngwagle'r to. Dylai'r system fod wedi'i dylunio a'i gosod yn unol â B.S. 5839 Rhan 6: 2019

Mae'n rhaid selio'r rhwystr tân â mastig chwyddedig (sêl sy'n gwrthsefyll tân) ar hyd pob cyswllt.

Pethau i feddwl amdanynt (gallai eich yswiriwr fynnu ar y rhain)

Argymhellir darparu agorfa atig at ddibenion diffodd tân. Argymhellir maint 600mm x 900mm o leiaf.

Dylech chi geisio cyngor gan gontractwr trydanol cymeradwy am y math mwyaf priodol o system wifro. Mae angen ystyried effeithiau difrod gan gnofilod a thameidiau gwellt (mae'r Cyngor Arolygu Cenedlaethol ar gyfer Contractio Gosodiadau Trydanol wedi cyhoeddi canllawiau i'w haelodau).

NI argymhellir goleuadau o fewn y to mewn unrhyw nenfwd o dan y to gwellt. Rhaid i ffitiadau golau o fewn gwagle'r to fod mewn ffitiad pared. Ni ddylid lleoli llifoleuadau allanol o dan fondo'r to gwellt.

NI argymhellir atalwyr gwreichion ar y ffliwiau gan eu bod nhw'n gallu tagu'r ffliw a chyfyngu ar lif nwyon.

Argymhellir bod tap dŵr allanol wedi'i gyflenwi gan y prif gyflenwad sy'n codi ar gael, gyda phibell ddŵr sy'n gallu cyrraedd pob rhan o'r to.

Dylai unrhyw blymwaith metel yng ngwagle'r to ddefnyddio uniadau cywasgu er mwyn osgoi defnyddio chwythlampau.

Mae ystadegau'n dangos mai offer sy'n llosgi tanwydd solid sy'n achosi 70% o danau mewn cartrefi to gwellt.

Mae angen bod yn ofalus iawn wrth osod llosgydd pren neu offer amldanwydd oherwydd y tymheredd eithafol sy'n cael ei gynhyrchu dros gyfnodau hir.