Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer fy nghegin?
Project type
Mae'n bosibl y bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer...
- Symud ffitiadau fel y sinc
- Gosod offer draenio ar gyfer peiriant golchi llestri newydd
- Estyn draeniau, gwneud cysylltiadau newydd â phentwr draenio dan ddaear, pibellau gwastraff uwchlaw'r ddaear neu ddraeniau
- Creu ystafell amlbwrpas newydd, yn eich prif adeilad neu mewn tŷ allan neu garej
- Gwneud gwaith trydanol fel rhan o ailosodiad
- Adeiladu cegin neu ystafell amlbwrpas lle doedd dim un o'r blaen
- Taro wal i lawr (yn cynnal pwysau neu beidio) oherwydd bod angen awyru a draenio'r ystafell yn ddigonol, a bodloni gofynion ynglŷn â sefydlogrwydd adeileddol, diogelwch trydan a diogelwch tân.
Os oes gennych chi amheuon, cysylltwch â'ch tîm rheoli adeiladu lleol. (Defnyddiwch y blwch chwilio uwchben yr erthygl hon i gael eu manylion cyswllt uniongyrchol.)
Does dim angen cymeradwyaeth er mwyn...
- Gosod ffitiadau draenio newydd o'r un math â'r rhai presennol
- Gosod drysau newydd mewn cegin
- Gosod unedau newydd mewn cegin
Mae rhestr fwy cynhwysfawr ar gael ar wefan yr LABC Pryd mae angen cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu ar gyfer cegin neu ystafell ymolchi newydd?
Nodiadau am ddraenio
Fel rydyn ni wedi'i ddweud, does dim angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i osod ffitiadau draenio newydd o'r un math â rhai presennol.
Fodd bynnag, os yw'r broses o osod y ffitiadau'n cynnwys estyn cysylltiadau neu wneud cysylltiadau newydd â phibellau draenio neu â draen dan ddaear, mae'r pibellau gwastraff a'r draeniau uwchlaw'r ddaear yn rheoladwy (h.y. mae angen eu cymeradwyo).
Yn ôl y gyfraith, mae draeniau'n wasanaethau neu ffitiadau rheoledig ac mae angen i chi wneud cais am ganiatâd rheoliadau adeiladu cyn dechrau'r gwaith. Fel rheol, gallwch chi ddefnyddio hysbysiad adeiladu i wneud eich cais ac yn aml gallwch chi gyflwyno hwn dros y ffôn neu ar-lein i dîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol. Gallwch chi gael gwybod mwy drwy ddilyn y cyswllt isod.