Skip to main content
Beth yw'r gofynion trydanol ar gyfer fy mhroject cegin?

Beth yw'r gofynion trydanol ar gyfer fy mhroject cegin?

Project type

Mae'r rheoliadau adeiladu yno i helpu i'ch cadw chi a'ch teulu mor ddiogel â phosibl, ond erbyn hyn, does dim angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i wneud rhai mathau o waith trydanol.

Ers fersiwn 2013 Rhan P y rheoliadau adeiladu dydy gwaith trydanol mewn ceginau (fel ychwanegu soced newydd, gwresogydd llawr trydanol, goleuadau foltedd isel iawn (ELV) a rheolyddion gwres canolog), ddim yn hysbysadwy.

Dyma'r gwaith yn y gegin lle mae angen cymeradwyaeth rheoli adeiladu neu hunanardystiad gan unigolyn cymwys:

  • Gosod cylchedau newydd
  • Gosod uned defnyddiwr newydd (blwch ffiwsiau)
  • Ailweirio'r cylchedau i gyd
  • Ac ailweirio rhannol

Cofiwch - dim ond trydanwr cofrestredig ddylai wneud unrhyw waith trydanol.

Rhagor o wybodaeth

Popeth mae angen i chi ei wybod am wneud cais rheoliadau adeiladu