Skip to main content
Beth yw'r rheoliadau tân ar gyfer ceginau?

Beth yw'r rheoliadau tân ar gyfer ceginau?

Project type

Ddylech chi ddim tynnu drws eich cegin: mae gwneud hynny'n golygu nad oes dihangfa ddiogel i'w defnyddio i ddianc o unrhyw ystafell arall yn yr eiddo drwy'r drws ffrynt pe bai tân yn digwydd.

Os yw drws presennol y gegin yn ddrws tân, byddai'n rhaid rhoi drws tân arall yn ei le.

Efallai yr hoffech chi ystyried canfodydd gwres yn eich cegin: mae hwn yn wahanol i ganfodydd mwg gan mai dim ond cynnydd tymheredd cyflym sy'n achosi iddo seinio, nid ager na mwg. Yn ddelfrydol, dylai pob larwm yn eich eiddo fod wedi'u cysylltu â'i gilydd er mwyn i chi allu eu clywed nhw o unrhyw le.

Os oes gennych chi gegin gynllun agored a grisiau agored yn arwain ati, bydd rhaid gosod canfodydd gwres ac mae'n bosibl y bydd angen cymryd camau pellach - bydd eich tîm rheoli adeiladu lleol yn gallu rhoi cyngor am yr hyn sy'n ofynnol.

Rhagor o wybodaeth

Ble i osod canfodyddion gwres, mwg a thân yn eich cartref (gwefan yr LABC)